Bagiau Brys i Gefnogi Dioddefwyr Cam-drin Domestig
Mae menter newydd i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig wedi gweld 30 bag brys yn cael eu dosbarthu ar gyfer eu defnyddio ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Wedi’u llenwi gydag eitemau hanfodol megis taclau ymolchi, byrbrydau hirhoedlog, a chyflenwadau brys, lluniwyd y bagiau i gynnig cymorth ymarferol ar unwaith i unigolion a theuluoedd mewn sefyllfa argyfyngus.
Mae’r cynllun yn cefnogi ymrwymiad ehangach CHTh i wella cymorth ar gyfer dioddefwyr a byddant yn cael eu dosbarthu mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys a Dal i Godi, y gwasanaeth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig sydd wedi’i gomisiynu. Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth arbenigol i’r rhai sydd mewn perygl uwch o niwed, gan gynnig cynllunio diogelwch a chymorth drwy’r broses cyfiawnder troseddol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:
“Mae hon yn fenter arbennig rwy’n falch o’i chefnogi. Mae’n rhoi cymorth ystyrlon i’r rhai sy’n profi trawma ac yn adlewyrchu’n gwaith parhaus i roi dioddefwyr yn gyntaf.
“O fewn ychydig ddyddiau wedi i’r bagiau gael eu dosbarthu i wasanaeth Dal i Godi, rhoddwyd un i ddioddefydd a oedd yn dianc rhag sefyllfa cam-drin domestig, ynghyd â phecyn plentyn i gefnogi ei theulu ifanc. Mae hyn yn dangos mor hanfodol yw’r cymorth hwn a pha mor gyflym y gall wneud gwahaniaeth.”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Llŷr Williams o Ganolfan Fregusrwydd Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae’r bagiau brys hyn yn cynnig rhaff achub i bobl ar adegau mwyaf argyfyngus eu bywydau.
“Gall cynnwys y bagiau hyn ddarparu cysur, urddas a chymorth ymarferol ar unwaith i’r rhai sydd fwyaf ei angen. Maen nhw wedi’u llunio ar gyfer pobl sy’n wynebu sefyllfaoedd argyfyngus, sy’n aml yn gadael eu cartrefi heb ychydig neu ddim ac yn cynnig cam bach ond arwyddocaol tuag at ddiogelwch ac adferiad.
“Rydym yn falch o weithio gyda phartneriaid ledled ardal Dyfed-Powys i sicrhau bod y cymorth hanfodol hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen pan fyddant ei angen.”
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n adnabod yn dioddef cam-drin domestig, ystyriwch adrodd amdano. Os ydych chi mewn perygl neu angen cymorth ar unwaith, galwch 999. Gallwch adrodd am gam-drin domestig trwy’r gwasanaeth adrodd am droseddau ar-lein fan hyn: Riportio camdriniaeth ddomestig | Heddlu Dyfed-Powys.
Mae cymorth hefyd ar gael drwy’r gwasanaethau cymorth isod:
📍 Cymorth i Ddioddefwyr Dyfed-Powys
Cymorth annibynnol am ddim i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan drosedd yn ardal Dyfed-Powys, hyd yn oed os nad yw’r drosedd wedi’i adrodd wrth yr heddlu.
📞 0300 123 2996
🔗 Cymorth i Ddioddefwyr Dyfed-Powys
📍 Dal i Godi (Gwasanaeth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig)
Cymorth arbenigol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig perygl uwch, sy’n cynnig cynllunio diogelwch, cymorth emosiynol, ac eiriolaeth gydag asiantaethau megis yr heddlu a’r llysoedd.
📞 01267 221194
📍 Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Cymorth 24/7 i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.
📞 0808 80 10 800 | 📱 Testun 07860 077333
📧 info@livefearfreehelpline.wales
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 19/12/2025