Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn gweithredu swyddfa ddi-bapur ac o ganlyniad bydd unrhyw ddogfennaeth y byddwch yn ei ddarparu i ni yn cael ei sganio a’i huwchlwytho i’n systemau a’r ddogfen yn cael ei dinistrio’n ddiogel. Y mae hyn yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth yn gywir ac yn ddiogel, ond hefyd ei hadalw yn ôl y gofyn. Dylid osgoi cyflwyno dogfennau personol ‘gwreiddiol’ lle’n bosibl, fodd bynnag os byddwch yn gwneud hyn ni fyddant yn cael eu dinistrio/darnio heb eich caniatâd ysgrifenedig, dylech wneud hyn yn hollol glir yn eich gohebiaeth gyda ni er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o’ch dymuniad i ddogfen gael ei dychwelyd. Nodwch NA fyddwn fel rheol yn dychwelyd unrhyw ddogfennau oni bai y gwneir cais penodol i ni wneud hynny, a hynny dim ond os ydyw’n ddogfen ‘wreiddiol’ lle na fyddai modd cael un newydd.
I gael gwybodaeth ynghylch sut rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar:Hysbysieb Preifatrwydd
Bydd dogfennaeth sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rheoli yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
SCHTh
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF
01267 226440
Oriau agor
Dydd Llun i Ddydd Iau - 9:00yb i 5:00yp
Dydd Gwener - 9:00yb i 4:30yp
2023 © Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys