Cadarnhau penodiad Ifan Charles yn Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn wedi cadarnhau penodiad Mr Ifan Charles yn Brif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys gydag effaith ar unwaith, yn dilyn gwrandawiad cadarnhau gan Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Mae'r penderfyniad yn dilyn proses recriwtio a dethol gadarn lle y cyflwynodd y Comisiynydd Ifan Charles fel yr ymgeisydd dewisol.
Ymunodd Mr Ifan Charles â Heddlu Dyfed-Powys yn 2004. Yn ystod ei yrfa, mae wedi dal amrywiaeth o rolau ar draws CID a phlismona unffurf ar draws ardal yr Heddlu, gan symud ymlaen trwy wahanol rengoedd.
Mae ei rolau wedi cynnwys arwain digwyddiadau arfau, a rheoli troseddau difrifol, lle mae cefnogi a gweithio gyda dioddefwyr wedi bod yn ffocws canolog i'w ddull.
Yn 2022, cwblhaodd Mr Charles Asesiad Genedlaethol yr Uwch Heddlu a Chwrs Gorchymyn Strategol yn llwyddiannus, cyn ymgymryd â rôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol. Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl ym mis Gorffennaf 2024.
Yn dilyn ymddiswyddiad y cyn Brif Gwnstabl Dr Richard Lewis yn gynharach yn 2025, mae Mr Charles wedi bod yn gweithredu fel Prif Gwnstabl Dros Dro, tra bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn a'i Swyddfa yn ymgymryd â'r broses recriwtio a dethol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Llywelyn:
“Rwy’n falch iawn fod y Panel Heddlu a Throseddu wedi cymeradwyo fy mhenderfyniad i benodi Mr Ifan Charles yn Brif Gwnstabl. Mae Mr Charles wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol, proffesiynoldeb, a gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol Heddlu Dyfed-Powys. Mae ganddo ddealltwriaeth ddofn o'r sefydliad a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac mae gennyf bob hyder yn ei allu i arwain yr Heddlu gyda gonestrwydd, tosturi, a phenderfyniad.
“Fel Comisiynydd, rwy'n edrych ymlaen at barhau â'n perthynas waith agos wrth i ni adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn eu lle. Gyda'n gilydd byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu plismona effeithiol a gweladwy, buddsoddi mewn atal, a chefnogi'r swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio'n ddiflino i gadw ein cymunedau'n ddiogel.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Ifan Charles; “Mae bod yn Brif Gwnstabl yn ymwneud â gwasanaethu a chyflawni heddiw ar gyfer cymunedau Dyfed-Powys ond hefyd â chreu ac adeiladu gwaddol o gymuned fwy diogel, iachach a ffyniannus yn y dyfodol. Wrth greu'r gwaddol hwn byddaf yn ddilys, yn weladwy ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar berthnasoedd ffyniannus â chymunedau, partneriaid, sefydliadau gwirfoddol a'n gweithlu i sicrhau bod y cyhoedd a dioddefwyr yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn“.
Dywedodd Cadeirydd y Panel, yr Athro Ian Roffe:
"Yn dilyn gwrandawiad cadarnhau llwyddiannus, mae Panel yr Heddlu a Throseddu yn llongyfarch Ifan Charles yn gynnes ar ei benodiad yn Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys. Fel dyn lleol sydd wedi codi i'r rôl hon trwy gystadleuaeth agored a llym, mae ei gyflawniad yn destun balchder i'r ardal.
“Ar ran y Panel, rydym yn diolch i chi am eich atebion meddylgar, yn canmol eich gwasanaeth rhagorol, ac yn dymuno pob llwyddiant i chi wrth i chi ymgymryd â'r rôl bwysig hon."
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 07/10/2025