Mae Canolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw newydd yn paratoi i agor yn swyddogol wythnos nesaf, gyda phartneriaid yn dod at ei gilydd heddiw ar gyfer diwrnod agored arbennig i arddangos y cymorth arbenigol y bydd yn ei ddarparu ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol ledled ardal Dyfed-Powys.

Adeiladwyd y ganolfan gan ddefnyddio cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn cais llwyddiannus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sydd hefyd wedi goruchwylio datblygiad y cyfleuster newydd. Mae’r gwasanaethau a gyflenwir o’r ganolfan yn cael eu hariannu ar y cyd gan bartneriaid y GIG, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a phlismona. Mae’n ffurfio rhan o ymagwedd bartneriaeth ehangach rhwng asiantaethau cyfiawnder troseddol, gwasanaethau iechyd a sefydliadau trydydd sector, sy’n anelu at sicrhau bod y rhai sydd wedi’u heffeithio gan drais rhywiol yn derbyn y gofal, cefnogaeth ac arweiniad sydd angen arnynt.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, a agorodd y ganolfan newydd yn swyddogol: “Mae sicrhau bod gan ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol fynediad i’r gwasanaethau iawn ar yr amser iawn yn flaenoriaeth allweddol i mi fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Ni ddylai neb deimlo’n unig ar ôl profi trosedd mor drawmatig, ac mae’n hanfodol bod cymorth arbenigol ar gael i gefnogi pobl trwy adferiad.

“Un o flaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throseddu yw gosod dioddefwyr a goroeswyr wrth wraidd popeth a wnawn. Mae agor y ganolfan hon yn enghraifft glir o’r ymrwymiad hwnnw ar waith – gan sicrhau bod pobl ledled ardal Dyfed-Powys yn gallu cael mynediad at gymorth tosturiol o safon uchel yn agosach at adref.

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu cyllid ar gyfer y prosiect hwn, a’n bod ni’n gwella’r gwasanaethau sydd ar gael i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau drwy weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y maes iechyd a darparwyr arbenigol. Mae’r lansiad yn dangos beth y gallwn ei gyflawni pan rydyn ni’n gwrando ar ddioddefwyr ac yn sicrhau bod eu hanghenion yn arwain y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi.”

Dywedodd Jackie Stamp, Prif Weithredwr Llwybrau Newydd:

Yr ydym yn falch o fod yn rhan o lansiad y Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw newydd yn Aberystwyth, sy’n gam hollbwysig ymlaen o ran sicrhau y gall goroeswyr trais rhywiol ledled canolbarth a gorllewin Cymru’n cael mynediad at gymorth arbenigol a hysbysir gan drawma yn agosach at adref.

Yn Llwybrau Newydd, rydyn ni wedi treulio dros dri degawd yn cerdded ochr yn ochr â goroeswyr, a gwyddom pa mor bwysig ydyw bod gwasanaethau’n cael eu harwain gan gleientiaid, yn hygyrch, yn dosturiol, ac wedi’u teilwra i anghenion unigol. Bydd y Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw newydd hon yn cynnig gofod diogel a chroesawgar ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan drais rhywiol, ni waeth pryd y digwyddodd y cam-drin, a bydd yn cynnig mynediad at gymorth adeg argyfwng, gwasanaethau meddygol fforensig, eiriolaeth drwy’r broses cyfiawnder troseddol a chwnsela arbenigol.

Mae’n falch gennym weithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac asiantaethau allweddol eraill drwy Raglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod goroeswyr yn cael eu clywed, eu credu a’u cefnogi bob cam o’r ffordd.  

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio:
"Mae agor y canolfan SARC newydd hon yn Aberystwyth yn cynrychioli ychwanegiad hanfodol i'r rhwydwaith rhanbarthol o gymorth i oroeswyr trais rhywiol. Trwy gydweithrediad agos gyda'n partneriaid mewn heddlu, eiriolaeth, ac gofal arbenigol, rydym yn helpu sicrhau y gall unigolion a effeithiwyd gan y profiadau trawmatig hyn gael mynediad i wasanaethau sydd yn ddiogel, hygyrch, cydymdeimladol, ac wedi'u teilwra i'w hanghenion. Mae'r ganolfan yn cynnig lle cyfrinachol lle gall pobl ddechrau eu taith o wellhad gyda pharch a chefnogaeth, ac rydym yn ddiolchgar am allu cyfrannu at ymdrech gydweithredol sy'n dod â'r gwasanaeth hanfodol hwn i'n rhanbarth."


Dywedodd y Prif Gwnstabl Ifan Charles:
“Mae cefnogi goroeswyr cam-drin ac ymosodiadau rhywiol yn flaenoriaeth allweddol. Mae Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw’n fannau diogel sy’n darparu cefnogaeth a gofal arbenigol am ddim i unrhyw un sydd wedi dioddef trais, ymosodiad rhywiol neu gam-drin ar unrhyw adeg yn ystod ei oes. Gall cyfweliadau heddlu ac archwiliadau fforensig gael eu cynnal yn breifat, ac mae staff arbenigol wedi’u hyfforddi i helpu goroeswyr ni waeth pryd neu ble y digwyddodd y digwyddiad, a byddant yn cefnogi’r unigolyn i wneud penderfyniadau gwybodus am yr hyn maen nhw eisiau ei wneud nesaf – ond ni fyddant byth yn dweud wrthynt beth i’w wneud.

“Byddant yn gwrando ar oroeswyr ac yn eu credu, a byddant yn derbyn gofal mewn man lle maen nhw’n ddiogel. Mae Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw’n cefnogi pobl o bob oed, beth bynnag yw eu rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd. Peidiwch â dioddef yn dawel, dydych chi ddim ar ben eich hun – mae cymorth ar gael gan Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw heb orfod siarad gyda’r heddlu neu adrodd am yr hyn ddigwyddodd.

“Mae datblygu’r Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw newydd hon yn Aberystwyth yn gam mawr ymlaen o ran y cymorth arbenigol sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr.” 

Bydd y ganolfan yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr ac yn darparu amgylchedd diogel a chyfrinachol lle gall pobl gael mynediad at ofal meddygol, archwiliad fforensig, cwnsela, ac eiriolaeth barhaus.

Mae’r buddsoddiad hwn hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad y Comisiynydd tuag at roi dioddefwyr a goroeswyr wrth wraidd blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu 2025-2029, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u hanghenion yn cael eu bodloni.

Am ragor o wybodaeth a mynediad at gymorth, galwch heibio i:
Llwybrau Newydd - Gwasanaethau cymorth argyfwng trais rhywiol a cham-drin rhywiol
Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 08/10/2025