Cefnogi Dioddefwyr gyda Bagiau Bachu Amazon

Yn ddiweddar, ymwelodd aelodau o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu â safle lleol Amazon i gefnogi menter genedlaethol newydd sy'n helpu pobl sy’n profi effeithiau cam-drin domestig.
Fel rhan o'r cynllun, mae 30 o fagiau bachu yn llawn nwyddau hanfodol wedi'u rhoi i Heddlu Dyfed-Powys. Mae pob bag yn cynnwys eitemau fel pethau ymolchi, byrbrydau nad ydynt yn ddarfodus ac eitemau brys i blant – yn barod i’w dosbarthu i unigolion a theuluoedd sydd eu hangen ledled ein hardal.
Mae'r fenter yn rhan o ymrwymiad ehangach i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy raglen Dal i Godi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:
“Mae hon yn fenter anhygoel rwy’n falch o’i chefnogi. Mae'n darparu cymorth ymarferol i'r rhai sydd mewn argyfwng ac yn adlewyrchu ein pwyslais parhaus ar wella cefnogaeth i ddioddefwyr ledled Dyfed-Powys.”
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael eich effeithio gan drosedd – gan gynnwys cam-drin domestig – mae cymorth ar gael.
📍 Cymorth i Ddioddefwyr Dyfed-Powys
Yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan drosedd yn ardal Dyfed-Powys – p’un a yw wedi rhoi gwybod i’r heddlu ai peidio.
Ffoniwch 0300 123 2996 neu ewch i:
👉 www.dyfedpowys-pcc.org.uk/gwasanaeth-dioddefwyr-dyfed-powys
📍 Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Cymorth 24/7 i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol.
📞 0808 80 10 800 | 📱 Tecst 07860 077333
📧 gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 20/06/2025