Er mwyn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod 2025, mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n tynnu sylw at argaeledd fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o’r Cynllun Heddlu a Throseddu.

Mae’r fideo’n cyflwyno blaenoriaethau allweddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, o ran Iaith Arwyddion Prydain, gan helpu i wneud y Cynllun yn fwy hygyrch ar gyfer preswylwyr Byddar ledled yr ardal heddlu.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn:

“Mae pawb yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn plismona a diogelwch cymunedol, ac mae hynny’n dechrau gyda chyfathrebu. Rwy’n falch bod ein Cynllun Heddlu a Throseddu ar gael mewn Iaith Arwyddion Prydain, ac rwy’n gobeithio ei fod yn cefnogi gwell dealltwriaeth a ffydd ar draws pob cymuned.”

Mae SCHTh hefyd yn annog gwell ymwybyddiaeth o wasanaethau plismona hygyrch Iaith Arwyddion Prydain, gan gynnwys:

  • 999BSL – gwasanaeth cyfnewid fideo brys am ddim sydd ar gael 24/7 (co.uk)
  • Relay UK – Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd ac rydych chi wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth testun brys, cewch ddefnyddio gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfon neges destun at 999.
  • SignLive – gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain difrys sydd ar gael drwy wefan Heddlu Dyfed-Powys SignLive | Heddlu Dyfed-Powys

📺 Gwyliwch y Cynllun Heddlu a Throseddu mewn Iaith Arwyddion Prydain:
https://youtu.be/e3EGI5WrbaU

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 05/05/2025