Treuliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), y diwrnod yn Sir Benfro ddydd Iau 22 Ionawr ar gyfer ei Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol cyntaf yn 2026, gan gwrdd â phobl ifainc, aelodau o’r gymuned, gwirfoddolwyr a swyddogion heddlu.

Dechreuodd y diwrnod gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n ymweld â Choleg Sir Benfro, lle y cyfarfu â sawl myfyriwr a gwirfoddolwr sydd wedi ymuno â’r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yn ddiweddar. Roedd yn gyfle i bobl ifainc fynegi pryderon a sôn am faterion lleol y mae pobl ifainc yn eu hwynebu heddiw.

Yn y prynhawn, ymwelodd CHTh Llywelyn â Phobl yn Gyntaf Sir Benfro yn Hwlffordd. Roedd y sesiwn galw heibio’n dilyn ymweliad â’r Pencadlys gan Bobl yn Gyntaf Sir Benfro fis Tachwedd, lle y trafododd aelodau blismona a diogelwch cymunedol. Rhoddodd y sesiwn galw heibio gyfle i drafod yr heriau a wynebir gan oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yng nghymunedau Dyfed-Powys.

Yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw, aeth y Comisiynydd i Orsaf Heddlu Hwlffordd i gwrdd â dau Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd a swyddogion heddlu. Rôl Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd yw ymweld â dalfeydd yr heddlu i wirio ar les carcharorion a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal. Cysgododd CHTh un o ymweliadau’r gwirfoddolwyr yn nalfa Hwlffordd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:

“Mae Diwrnodau Ymgysylltu Cymunedol yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr imi i gymunedau lleol yn ardal blismona Dyfed-Powys. Mae pob ymweliad yn rhoi gwell dealltwriaeth imi o farn y cyhoedd, cynghorwyr, a busnesau a sefydliadau lleol, a blaenoriaethau plismona. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd amser allan o’u diwrnod i gwrdd â mi. Diolch yn fawr!”

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 23/01/2026