Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, yn falch o gefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio 2026, a gynhelir o 20–26 Ebrill, sy’n canolbwyntio ar y cyswllt hollbwysig rhwng stelcio a dynladdiad.

Ymgyrch flynyddol a gynhelir ar draws y DU yw Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio. Mae’n anelu i godi ymwybyddiaeth o stelcio, sut i adnabod yr arwyddion a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael, a lleihau’r stigma o gwmpas stelcio.

Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Mae’r wythnos hon yn atgoffa pawb bod stelcio’n drosedd sydd ag effaith hirdymor ddinistriol ar ddioddefwyr a’u hanwyliaid. I lawer o ddioddefwyr, mae stelcio’n bryder dyddiol, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod dioddefwyr stelcio’n cael eu clywed, eu gweld a’u cefnogi - ac anogaf weithwyr proffesiynol i gymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio. Nid gweniaith yw stelcio; mae’n drosedd.”

 

Er mwyn dysgu mwy am stelcio, dyma rai digwyddiadau y gallwch ymuno â nhw:

  1. Cynhadledd Rithwir, wedi’i chynnal gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Cadwch y Dyddiad: Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio | Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh

  1. Cynhadledd Mynd i’r Afael â Stelcio 2026: Cryfhau Adnabod, Ymchwilio, a Diogelu Dioddefwyr

Cynhadledd Mynd i’r Afael â Stelcio 2026: Cryfhau Adnabod, Ymchwilio, a Diogelu Dioddefwyr – Digwyddiadau’r Llywodraeth

  1. Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio – Gweminar Peryglon Stelcio

Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio – Tocynnau ar gyfer Gweminar Peryglon Stelcio, Dydd Llun 20 Ebrill o 1y.h. tan 2y.h. GMT+1 | Eventbrite

Article Date: 20/04/2026