Bydd y llywodraeth yn cynnal prawf cyhoeddus o’i system Rhybuddion Argyfwng ar 7 Medi 2025 am 3pm.

Yn ystod y prawf hwn, bydd dyfeisiau cydnaws yn cynhyrchu sain a dirgryniad, ac yn dangos neges ar y sgrin. Mae’r rhybudd yn rhan o raglen genedlaethol i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn gwybodaeth yn gyflym yn ystod argyfyngau. Bydd y prawf yn cael ei anfon unwaith yn unig.

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed Powys yn annog preswylwyr i fod yn ymwybodol o’r prawf a deall beth i’w ddisgwyl.

Dywedodd y CHTh Dafydd Llywelyn:

“Mae’r system Rhybuddion Argyfwng yn offeryn pwysig i sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth ac yn cadw’n ddiogel yn ystod argyfyngau. Er mai prawf yn unig yw hwn, mae’n bosibl y bydd rhai preswylwyr, gan gynnwys unigolion sy’n goroesi cam-drin domestig neu’r rheiny mewn sefyllfaoedd agored i niwed, yn dymuno darllen y canllawiau ar reoli rhybuddion argyfwng ar eu dyfeisiau.”

Gall preswylwyr gael cefnogaeth a chyngor gan ein gwasanaethau a gomisiynwyd yma: Gwasanaethau SCHTh Dyfed‑Powys

Ceir canllawiau swyddogol gan y Llywodraeth, gan gynnwys cyngor i’r rheiny y bydd o bosibl angen iddynt reoli neu optio allan o’r rhybudd, yma: Profi cyhoeddus y system Rhybuddion Argyfwng

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 04/09/2025