CHTh yn Llofnodi Llw Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, wedi llofnodi’r Llw Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu, gan gryfhau ei ymrwymiad tuag at fynd i’r afael ag ymddygiadau niweidiol o fewn plismona ledled ardal Dyfed-Powys.
Mae’r llw’n anelu i sicrhau bod honiadau o gam-drin gan yr heddlu’n cael eu trin o ddifri, yn derbyn ymateb cyson, ac yn cael eu trin mewn modd sy’n cefnogi dioddefwyr ac yn cynnal hyder cyhoeddus. Drwy lofnodi’r llw, mae’r Comisiynydd wedi cadarnhau ei gefnogaeth tuag at wella diwylliant, tryloywder ac atebolrwydd ar draws y gwasanaeth.
Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn:
“Nid oes lle i drais, cam-drin a chasineb at wragedd mewn plismona. Drwy gefnogi’r llw hwn, rwy’n anfon neges glir bod yn rhaid i ddioddefwyr gael eu credu, bod yn rhaid gweithredu ar bryderon, a bod yn rhaid cynnal safonau uchel ar draws Heddlu Dyfed-Powys."
Mae’r llw’n ffurfio rhan o waith cenedlaethol ehangach i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin a thrais rhywiol, a hyrwyddo amgylcheddau plismona mwy cynhwysol. Bydd SCHTh yn parhau i weithio’n agos â Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau partner er mwyn sicrhau cynnydd yn erbyn yr ymrwymiad pwysig hwn.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 26/11/2025