Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn cynnal Diwrnod Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyfarfod Cyhoeddus yn Llandrindod

Ddydd Mawrth 9 Medi, treuliodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn y diwrnod yn Llandrindod ar gyfer ei ddiwrnod ymgysylltu â’r gymuned diweddaraf, gan gyfarfod â swyddogion heddlu lleol, sefydliadau cymunedol, ac aelodau’r cyhoedd. Dechreuodd y diwrnod yng ngorsaf Heddlu Llandrindod, lle cyfarfu’r Comisiynydd â swyddogion o’r Tîm Plismona Bro ac Atal Troseddu i drafod blaenoriaethau plismona cyfredol a materion diogelwch cymunedol. Roedd yr ymweliad hefyd yn cyd-daro â Diwrnod cenedlaethol Gwasanaethau Brys (Diwrnod 999), gan roi cyfle i gydnabod a diolch i dimau rheng flaen am eu hymrwymiad parhaus i gadw cymunedau’n ddiogel.
Yn ystod y prynhawn, ymwelodd y Comisiynydd â gwasanaethau cymorth lleol, gan gynnwys lloches bwrpasol gyntaf Gwasanaethau Trais Domestig Calan i famau a babanod ym Mhowys, a’r Cwch Gwenyn, i glywed am y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi pobl agored i niwed a chryfhau rhwydweithiau cymunedol ledled Powys.
>Daeth y diwrnod i ben gyda chymhorthfa gymunedol gyhoeddus yn Llandrindod, lle gwahoddwyd trigolion lleol i gyfarfod â’r Comisiynydd i godi pryderon, gofyn cwestiynau, a rhannu eu barn ynghylch plismona yn yr ardal.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:
“Mae fy niwrnodau ymgysylltu â’r gymuned yn gyfle pwysig i wrando ar bobl er mwyn dysgu mwy am y gwaith gwych sy’n digwydd yn ein cymunedau, ac i sicrhau bod lleisiau lleol yn helpu i lunio blaenoriaethau plismona. Mae cynnal y digwyddiad hwn ar Ddiwrnod Gwasanaethau Brys yn arbennig o ystyrlon a hoffwn ddiolch i’n holl ymatebwyr rheng flaen am eu hymroddiad a’u gwasanaeth. Rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i gyfarfod â mi, o swyddogion a sefydliadau partner i drigolion a fynychodd y gymhorthfa gyda’r nos.
Mae’r Comisiynydd yn cynnal cymorthfeydd cymunedol rheolaidd ledled ardal Dyfed-Powys. Ewch i’n gwefan Cyfarfodydd Cyhoeddus i gael manylion am gymorthfeydd sydd ar ddod yn eich ardal.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 10/09/2025