Cymhorthfa Gymunedol Hwlffordd: Rhannwch Eich Barn gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Ddydd Iau 11 Medi, fe dreuliodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, ddiwrnod yn Sir Benfro, ar gyfer ei ddiwrnod ymgysylltu â’r gymuned diweddaraf, gan gyfarfod â swyddogion heddlu, pobl ifanc, a sefydliadau partner.
Dechreuodd y diwrnod yng Ngorsaf Heddlu Dinbych-y-pysgod, lle cyfarfu’r Comisiynydd â swyddogion o’r Tîm Plismona Bro ac Atal Troseddu i drafod blaenoriaethau plismona lleol. Ymunodd hefyd â swyddogion ar batrôl i weld o lygad y ffynnon y gwaith sy’n cael ei wneud yn y gymuned.
Yn ddiweddarach yn y bore, fe ymwelodd y Comisiynydd ag Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod i ddysgu rhagor am sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â phrosiect pecyn cymorth ysgolion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gyda chymorth gweithwyr ieuenctid a swyddogion cyswllt ysgolion.
Yn y prynhawn, fe deithiodd y Comisiynydd i Orsaf Heddlu Hwlffordd i gael trafodaethau pellach â swyddogion y Timau Plismona Bro ac Atal Troseddu, cyn cymryd rhan mewn cyfarfod yn canolbwyntio ar Ymgyrch Ivydene, sef ymgyrch leol sy’n mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phryderon diogelu. Cafodd ef hefyd gyfarfod â phartneriaid i drafod dulliau cenedlaethol a lleol ar ddiogelwch cymunedol.
Cynhaliwyd yr ymweliad ochr yn ochr â menter haf Strydoedd Saffach sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd, sy’n darparu gweithgareddau atal troseddu wedi’u targedu a gwaith sicrwydd cymunedol ar draws ardal Dyfed-Powys yn ystod misoedd yr haf.
Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
“Mae diwrnodau ymgysylltu â’r gymuned yn rhoi cyfle i mi gyfarfod â swyddogion, sefydliadau partner a’r cyhoedd i ddeall blaenoriaethau lleol yn well. O siarad â phobl ifanc mewn ysgolion i gyfarfod â swyddogion ar y rheng flaen, mae’r ymweliadau hyn yn helpu i sicrhau bod barn ein cymunedau yn cael ei hadlewyrchu mewn plismona. Ochr yn ochr â hyn, mae mentrau fel ein hymgyrch haf Strydoedd Saffach yn helpu i wella diogelwch a magu hyder trigolion ledled Sir Benfro a thu hwnt.”
Mae’r Comisiynydd yn cynnal cymorthfeydd cymunedol rheolaidd ledled ardal Dyfed-Powys. Ewch i’n gwefan Cyfarfodydd Cyhoeddus i gael manylion am gymorthfeydd sydd ar ddod yn eich ardal.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 12/09/2025