Heddiw, cyhoeddodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024–25, gan amlinellu’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn erbyn y blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu.

Mae’r adroddiad yn arddangos gwaith CHTh o ran dal y Prif Gwnstabl i gyfrif, cefnogi dioddefwyr, a buddsoddi mewn cymunedau mwy diogel ledled ardal Dyfed-Powys.

Mae uchafbwyntiau allweddol o’r adroddiad yn cynnwys:

  • Buddsoddiad parhaus mewn prosiectau atal trosedd ac ymyrraeth gynnar, yn enwedig y rhai sy’n cefnogi grwpiau bregus a phobl ifainc
  • Ehangu cynlluniau gwirfoddoli annibynnol megis Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, Llysgenhadon Ieuenctid ac Ymwelwyr Lles Anifeiliaid
  • Cymorth parhaus ar gyfer y gwasanaeth cymorth dioddefwyr sydd newydd ei gomisiynu, gan sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn cymorth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion
  • Ffocws cryf ar dryloywder ac ymgysylltu cyhoeddus, gan gynnwys paneli craffu newydd ac arolygon i roi llais i bobl leol

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Mae’r adroddiad hwn yn nodi sut mae fy swyddfa a minnau wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gyflenwi ein blaenoriaethau ar y cyd â chymunedau ledled Dyfed-Powys. Mae’n amlygu peth o’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud, yn ogystal â’r heriau rydyn ni’n wynebu o ran sicrhau bod plismona’n parhau’n amlwg, effeithiol ac atebol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn – o swyddogion a staff, i bartneriaid, gwirfoddolwyr a phreswylwyr.”

Mae’r adroddiad hefyd yn darparu trosolwg o gyfrifoldebau ariannol y Comisiynydd a threfniadau llywodraethu, gan gynnwys sut mae arian wedi’i bennu er mwyn cefnogi plismona rheng flaen a diogelwch cymunedol.

 

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w weld neu ei lawrlwytho ar:

🔗 dyfedpowys-pcc.org.uk

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 31/07/2025