Heddiw, cyhoeddodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2025-26, gan amlinellu’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn erbyn y blaenoriaethau allweddol a nodir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu

Mae’r adroddiad yn arddangos gwaith CHTh o ran cefnogi dioddefwyr, lleihau niwed, gwella canlyniadau a buddsoddi mewn cymunedau mwy diogel ledled ardal Dyfed-Powys. 

Mae uchafbwyntiau allweddol o’r adroddiad yn cynnwys y canlynol:

  • Buddsoddiad parhaus mewn atal trosedd a phrosiectau ymyrraeth gynnar, yn arbennig y rhai hynny sy’n cefnogi pobl ifainc a grwpiau sy’n agored i niwed
  • Ehangu cynlluniau gwirfoddoli annibynnol megis Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, Llysgenhadon Ieuenctid, ac Ymwelwyr Lles Anifeiliaid
  • Cymorth parhaus ar gyfer gwasanaeth cymorth dioddefwyr sydd newydd ei gomisiynu, gan sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn cymorth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion
  • Ffocws cryf ar dryloywder ac ymgysylltu cyhoeddus, gan gynnwys paneli craffu newydd ac arolygon i roi llais i bobl leol

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Mae’r adroddiad hwn yn nodi sut mae fy swyddfa a minnau wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf i gyflenwi ein blaenoriaethau a rennir â chymunedau ledled ardal Dyfed-Powys. Mae’n amlygu rhywfaint o’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud, yn ogystal â’r heriau ry’n ni’n eu hwynebu o ran sicrhau bod plismona’n parhau’n amlwg, effeithiol ac atebol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn – o swyddogion a staff, i bartneriaid, gwirfoddolwyr a phreswylwyr.” 

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o gyfrifoldebau ariannol a threfniadau llywodraethu’r Comisiynydd, gan gynnwys sut y pennwyd arian i gefnogi plismona rheng flaen a diogelwch cymunedol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w ddarllen neu ei lawrlwytho ar: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 17/07/2026