Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn Talu Teyrnged i’r Gwasanaethau Brys ar Ddiwrnod 999
Heddiw, ar Ddiwrnod y Gwasanaethau Brys (Diwrnod 999), mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn ymuno â phobl ar draws y DU wrth gydnabod a rhoi diolch i’r holl rai hynny sy’n gwasanaethu yn y gwasanaethau brys.
Cynhelir Diwrnod y Gwasanaethau Brys bob blwyddyn ar 9 Medi i ddathlu gwaith anhygoel swyddogion heddlu, diffoddwyr tân, parafeddygon, staff y GIG, timau chwilio ac achub, gwylwyr y glannau, a llawer mwy sy’n ymateb i alwadau brys 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r Comisiynydd Llywelyn yn cymryd y cyfle hwn i gydnabod y rôl hanfodol y mae gweithwyr y gwasanaethau brys yn ei chwarae wrth gadw ein cymunedau’n ddiogel.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:
“Pwrpas heddiw yw tynnu sylw at yr unigolion anhunanol hynny sy’n ymroddi eu bywydau i helpu eraill. Y gwasanaethau brys yw llinell flaen ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ymateb mewn cyfnodau o argyfwng, yn cynnig cysur a sicrwydd yn wyneb perygl, ac yn gweithio’n ddiflino i’n hamddiffyn ni i gyd.
“Ar draws ardal Dyfed Powys, rydym yn eithriadol o ffodus fod gennym dimau gwasanaethau brys ymroddedig, proffesiynol sy’n gwasanaethu ein cymunedau gyda dewrder a thosturi. Rydw i eisiau diolch o galon i’r rhai hynny sy’n cynnig eu hunain i wasanaethu, boed hynny fel ymatebwyr llinell flaen, staff yr ystafell reoli, gwirfoddolwyr, neu dimau cefnogi yn y cefndir.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 09/09/2025