Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n Cyhoeddi Lefel Praesept Heddlu ar gyfer 2026-27
Heddiw (23 Ionawr 2026), mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cadarnhau’r praesept heddlu ar gyfer 2026/27 yn dilyn cyfarfod o Banel Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys. Fel rhan o’i swydd, mae’r Comisiynydd yn sefydlu cyllideb yr heddlu, gan gynnwys y praesept heddlu, sef yr elfen o’r dreth gyngor sy’n helpu i ariannu plismona lleol.
Ar ôl proses graffu helaeth, cefnogodd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn unfrydol gynnig praesept y Comisiynydd ar gyfer 2026/27, a fydd yn cynyddu eiddo cyfartalog band D o 7.47%, neu £26.95 y flwyddyn, sef tua £2.25 y mis.Bydd hyn yn codi cyfanswm praesept o £93.033 miliwn i gefnogi gofyniad cyllideb o £161.905 miliwn.
Sylwodd sawl aelod o’r panel ar natur agored a thryloyw’r broses praesept, gan ganmol y ffordd yr oedd y Comisiynydd wedi dod i’w benderfyniad terfynol.
Wrth osod y praesept, ystyriodd y Comisiynydd Llywelyn amryw o ffactorau, gan gynnwys chwyddiant a phwysau cost, galw o ran gwasanaeth, lefelau cronfeydd wrth gefn, gofynion buddsoddi yn y dyfodol, cynlluniau ymagwedd gadarnhaol ac effeithlonrwydd, yn ogystal ag adborth gan breswylwyr ledled ardal Dyfed-Powys.
Bydd y praesept y cytunwyd arno’n cefnogi buddsoddi targedig mewn gwasanaethau plismona, gyda ffocws ar gryfhau Timoedd Plismona Lleol a chefnogi gweithgarwch atal.
Bydd yr arian yn cefnogi:
- Swyddogion plismona bro ychwanegol, gan gynyddu patrolau amlwg a chryfhau gwybodaeth leol a pherthnasau cymunedol.
- Swyddogion ymateb ychwanegol, gan helpu i wella amserau ymateb a sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu trin yn gyflym ac effeithiol.
- Gweithgarwch ymgysylltu, atal ac ymyrryd gwell ar gyfer pobl ifainc, gan ganolbwyntio ar gefnogaeth gynnar, dargyfeirio rhag trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyfleoedd cadarnhaol drwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, teuluoedd a gwasanaethau ieuenctid.
- Buddsoddi mewn arloesedd i wella gwasanaethau i ddioddefwyr a lliniaru prosesau er mwyn galluogi swyddogion i roi mwy o amser i ddyletswyddau rheng flaen.
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer cymunedau ar draws ardal Dyfed-Powys
Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu plismona bro amlycach, gwell ymateb i ddigwyddiadau a ffocws cryfach ar atal ar gyfer cymunedau ar draws ardal Dyfed-Powys. Bydd hefyd yn cefnogi gwaith ymyrraeth gynnar gyda phobl ifainc, gan helpu i atal niwed a mynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt ddwysáu.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Rwy’n cydnabod y pwysau mae unrhyw gynnydd i’r praesept heddlu’n gosod ar gartrefi. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad hwn yn ymwneud â gwarchod plismona rheng flaen a buddsoddi yn y gwasanaethau sydd bwysicaf i’n cymunedau.
“Mae preswylwyr wedi bod yn glir eu bod nhw eisiau gweld mwy o swyddogion yn lleol, amserau ymateb cynt a mwy o ffocws ar atal. Mae’r buddsoddiad hwn yn cyflenwi hynny, gyda swyddogion bro ac ymateb ychwanegol, gwell ffyrdd i gymunedau gadw mewn cysylltiad â’u timoedd lleol, a rhaglenni ymyrraeth gynnar sy’n cefnogi pobl ifainc ac yn helpu i atal trosedd cyn iddo ddechrau.
“Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn yn adlewyrchu fy ymrwymiad i ddiogelu cymunedau a chyflenwi gwasanaeth plismona hygyrch, modern, sy’n rhoi atal a diogelwch cymdogaethau yn gyntaf.“
Ychwanegodd Mr Llywelyn; “Tra bod yr amgylchedd ariannol a gweithredol yn parhau’n heriol, mae’r lefel gyllid hon yn darparu’r sefydlogrwydd sydd angen i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a nodir yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn drwy’r ymgynghoriad, yn ogystal ag aelodau o’r Panel Heddlu a Throseddu am eu cefnogaeth a’u craffu parhaus.”
Dywedodd Cynghorydd Keith Evans, Is-gadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a bu'n arwain y gyfarfod heddiw:
"Rwy'n falch iawn o ganlyniad y cyfarfod praesept plismona ac rwyf am gymryd ychydig o amser i ddiolch i Aelodau'r Panel a'r Is-grŵp Cyllid am sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth gyrraedd eu penderfyniad, sydd wedi dod ar ôl llawer o gyfarfodydd craffu.
"Hoffwn nodi fod ymatebion y Comisiynydd a'i swyddfa i ofynion gwybodaeth yr is-grŵp wedi bod yn agored ac yn dryloyw. Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i dîm Ysgrifennydd y Paneli am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth arferol".
DIWEDD
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 23/01/2026