Cynhaliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ddigwyddiad drysau agored ym Mhencadlys yr Heddlu ddydd Iau 23 Hydref ar gyfer cynrychiolwyr cymuned. Gwahoddodd CHTh Dafydd Llywelyn Gynghorwyr Sir, Tref a Chymuned, Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd i ymweld â Phencadlys yr Heddlu yn Llangynnwr, Caerfyrddin, i fynd tu ôl i ddrysau caeedig i ddysgu mwy am waith rhai unedau arbenigol allweddol yn Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd y digwyddiadau’n cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau gan adrannau ac unedau arbenigol ar feysydd plismona allweddol megis Trais Difrifol a Throseddu Trefnedig, Gweithrediadau Arbenigol, a’r Ganolfan Fregusrwydd. Roedd y digwyddiadau’n anelu i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i gynrychiolwyr cymuned o’r gwaith helaeth sy’n cael ei wneud gan yr Heddlu er mwyn sicrhau bod cymunedau Dyfed-Powys yn aros yn rhydd rhag niwed.

Rhoddwyd taith i’r rhai a oedd yn bresennol o Ganolfan Reoli’r Heddlu lle y cawsant drosolwg o’r ffordd mae galwadau 101 a 999 a’r ddesg ddigidol yn cael eu gweithredu, a’r ffordd mae’r isadeiledd TCC yn cael ei weithredu er mwyn cefnogi Swyddogion ar y tir.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Mae’r digwyddiadau Drysau Agored hyn, gobeithio, wedi datblygu dealltwriaeth cynrychiolwyr cymuned o elfennau o waith mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud nad yw pobl yn ymwybodol ohono, o bosibl. Ein nod oedd meithrin synnwyr dyfnach o dryloywder ac ymddiriedaeth rhwng Heddlu Dyfed-Powys a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac roedd yn gyfle hefyd i rannu mewnwelediadau a chymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol gyda swyddogion. Rwyf eisiau diolch i bawb a wnaeth yr ymdrech i ddod, a gan fod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol, byddwn ni’n edrych ar drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cynrychiolwyr cymuned yn cael gwybod am weithgareddau a datblygiadau allweddol o fewn yr Heddlu.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 24/10/2025