Treuliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) ddiwrnod yn Aberystwyth ddydd Mawrth 25 Chwefror fel rhan o ymweliad ymgysylltu cymunedol, gan gwrdd â myfyrwyr, partneriaid a phreswylwyr lleol.

Dechreuodd y diwrnod ym Mhrifysgol Aberystwyth lle cyflwynodd CHTh ddarlith wadd i fyfyrwyr â’r teitl Plismona yn y Dyfodol: Diwygiad, Cyfreithlondeb a Chyd-destun Cymru. Archwiliodd y sesiwn i ddyfodol plismona yng Nghymru, pwysigrwydd ymddiriedaeth gyhoeddus a chyfreithlondeb, a sut y gall diwygiad ymateb i anghenion newidiol cymunedau.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu CHTh ag un o’n Llysgenhadon Ieuenctid hefyd, gan drafod rhan pobl ifainc mewn llunio plismona a diogelwch cymunedol ledled ardal Dyfed-Powys.

Yna, cyfarfu CHTh â chynrychiolwyr o fudiad Dewis i ddysgu mwy am y cymorth maen nhw’n darparu ac effaith gweithio mewn partneriaeth yn yr ardal leol.

Daeth yr ymweliad i ben yng Ngwesty’r Marine, lle y mynychodd CHTh y Panel Craffu Cymunedol cyntaf i’w gynnal ar y ffurf hon. Mae’r panel yn rhoi cyfle i aelodau o’r cyhoedd adolygu’n annibynnol ar gyswllt yr heddlu â’r cyhoedd, gan helpu i gryfhau tryloywder, atebolrwydd a hyder cyhoeddus. 

Meddai Donna Cronin, Pennaeth Sicrwydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh):
Mae craffu annibynnol yn un o gonglfeini ymddiriedaeth gyhoeddus mewn plismona. Mae’r panel craffu cymunedol yn caniatáu i aelodau o’r cyhoedd archwilio cyswllt yr heddlu â chymunedau mewn ffordd agored a thryloyw, gan ddarparu her adeiladol ac adborth ystyrlon.

“Mae’r gwaith yn ganolog i rôl SCHTh o ran dal yr heddlu i gyfrif a sicrhau bod plismona ledled ardal Dyfed-Powys yn foesegol a chymesur, ac wedi’i wreiddio ym mhrofiadau’r cymunedau mae’n gwasanaethu.”

Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae diwrnodau fel heddiw’n rhan hanfodol o’m rôl fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae siarad gyda myfyrwyr, pobl ifainc, partneriaid ac aelodau o’r cyhoedd yn helpu i sicrhau bod plismona yn ardal Dyfed-Powys yn parhau i gael ei lunio gan y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

“Mae’r Panel Craffu Cymunedol yn gam pwysig o ran cryfhau tryloywder a hyder cyhoeddus ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn y panel cyntaf o’i fath.”

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 25/02/2026