Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymateb i Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Ddiwygio'r Heddlu
Yr wythnos hon, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi cynlluniau i ddiwygio'r gwasanaeth heddlu.
Mae ‘From Local to National: a New Model for Policing’ yn amlinellu nifer o newidiadau strwythurol sylweddol i blismona yng Nghymru a Lloegr, a ddisgrifiwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood AS fel "y newidiadau mwyaf sylweddol i blismona mewn tua 200 mlynedd."
Mae'r cynigion a gyhoeddwyd yn y Papur Gwyn yn cynnwys:
- Creu Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol newydd
- Uno heddluoedd, gan greu "nifer fach" o heddluoedd rhanbarthol allan o'r 43 presennol yng Nghymru a Lloegr
- Diddymu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs) a throsglwyddo o'r model PCC etholedig i Fwrdd yr Heddlu a Throseddu erbyn mis Mai 2028
- Buddsoddiad enfawr mewn technoleg gan gynnwys £115m mewn Deallusrwydd Artiffisial a chyflwyno technoleg adnabod wynebau ledled y wlad
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru;
“Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi’r angen i foderneiddio plismona ac mae papur gwyn Llywodraeth y DU yn rhoi’r cyfle hwnnw inni.
“Mae plismona yng Nghymru yn gweithredu o fewn tirwedd gwasanaeth cyhoeddus unigryw, wedi’i llunio gan bartneriaethau agos â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, a’n partneriaid sefyldiadau anllywodraethol.
“Mae’r dull partneriaeth yr ydym wedi’i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd yma yng Nghymru wedi cael ei ganmol gan lywodraethau olynol, a rhaid i unrhyw adolygiad o’r model a’r strwythurau plismona adlewyrchu’r gwaith hwn. Rhaid iddo hefyd ystyried y dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio orau i gymunedau a phobl Cymru.
“Yn hanfodol i hyn mae’r ymrwymiad bod plismona wedi’i wreiddio yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ein bod yn cryfhau plismona cymunedol a’n bod yn cynnal ac yn gwella atebolrwydd lleol.
“Fel cynrychiolwyr etholedig yn lleol, mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn ac ystyrlon wrth ddylunio trefniadau’r dyfodol i Gymru, gan sicrhau parhad, sefydlogrwydd ac atebolrwydd democrataidd yn ystod unrhyw drawsnewidiad.
“Rhaid i Lywodraeth y DU ddangos nawr sut y byddai’r newid rhanbarthol a strwythurol y mae’n ei gynnig yn gwella atebolrwydd lleol ac yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cymunedau.”
Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn; “Rwy’n croesawu cyhoeddi Papur Gwyn Diwygio’r Heddlu gan y Llywodraeth, ac yn benodol y pwyslais clir y mae’n ei roi ar blismona lleol, plismona cymunedol a chynyddu nifer y swyddogion. Dyma flaenoriaethau sy’n bwysig i gymunedau Dyfed-Powys. Bydd cryfhau plismona cymunedol gweladwy a chynyddu nifer y swyddogion ar ein strydoedd yn gwneud i’n cymunedau deimlo’n fwy diogel ac yn cael mwy o gefnogaeth, ac mae’n rhywbeth y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan blismona yn yr 21ain ganrif.
“Fodd bynnag,er fy mod yn croesawu bwriad y newidiadau a amlinellir yn y Papur Gwyn, mae cwestiynau pwysig yn parhau ynghylch sut y bydd y diwygiadau hyn yn cael eu hariannu a’u cyflawni’n ymarferol. Yn ardal Dyfed-Powys, mae llai na 50% o gyllid yr heddlu yn dod o’r Llywodraeth ganolog, gyda thalwyr treth gyngor lleol yn cyfrannu dros hanner cyllideb yr heddlu. Ni ellir cyflawni diwygio effeithiol heb setliad ariannu clir, hirdymor sy’n cydnabod realiti ariannol plismona mewn cymunedau gwledig ac amrywiol.
“Mae gan y cynnig i greu Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol fanteision posibl wrth fynd i’r afael â throseddau difrifol a chymhleth, ond mae hefyd yn codi pryderon y gallai canoli swyddogaethau ddargyfeirio adnoddau a chymryd penderfyniadau’n anfwriadol i ffwrdd o flaenoriaethau ac atebolrwydd lleol. Rhaid inni sicrhau bod unrhyw gynllun cenedlaethol yn gwella, yn hytrach na gwanhau, gallu heddluoedd lleol i wasanaethu’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau.
“Yn olaf, mae’n siomedig nad yw’r Papur Gwyn hwn yn manteisio ar y cyfle i gychwyn sgwrs wirioneddol am ddatganoli pwerau plismona a throseddu i Gymru. Dros y degawd ddiwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn cydweithrediad â phartneriaid yng Nghymru, gan adeiladu achos dros ddatganoli pwerau plismona. Dylai diwygiad o’r raddfa hon fod wedi cynnwys ystyriaeth ystyrlon o sut y gellir alinio pwerau ac atebolrwydd â sefydliadau democrataidd Cymru.
“Wrth i ni weithio drwy fanylion y newidiadau arfaethedig a amlinellir yn y papur, rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol â’r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, arweinwyr yr heddlu a phartneriaid lleol i lunio diwygiad sy’n wirioneddol ddarparu plismona effeithiol, atebol ac ymatebol yn lleol i’n holl gymunedau.”
DIWEDD
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 01/06/2025