Mae enwebiadau a gyflwynwyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2025, gyda phob enwebai naill ai’n enillydd categori neu’n derbyn clod mawr am ei gyfraniad tuag at ddiogelwch cymunedol.  

Mae enwebiadau Dyfed-Powys yn cynnwys:  

  • Celf Aeron – cefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy fynegiant creadigol a chelf therapiwtig.  
  • Bradley, Llysgennad Ieuenctid – hyrwyddo llais pobl ifainc mewn plismona a diogelwch cymunedol.
  • Ymgyrch Scotney - diogelu pobl fregus hŷn rhag twyll.
  • Paladin – gwasanaeth a hysbysir gan drawma a sefydlwyd yn 2013, i gynorthwyo dioddefwyr stelcio perygl uwch yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:  
“Rwy’n eithriadol o falch bod Dyfed-Powys wedi derbyn cydnabyddiaeth mewn pedwar categori yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel. Mae ein holl enwebeion wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddiogelu ein cymunedau, cefnogi pobl sy’n agored i niwed, a chryfhau partneriaethau diogelwch lleol.

“Mae cael eich cydnabod ar lwyfan genedlaethol yn gyflawniad arbennig, a hoffwn estyn fy llongyfarchiadau diffuant i bawb. Diolch yn fawr.” 

Bydd y seremoni wobrwyo, a gynhelir ddydd Iau 27 Tachwedd, yn cadarnhau pa un ai a yw pob enwebai wedi’i enwi’n enillydd neu’n derbyn clod mawr yn ei gategori.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 21/11/2025