Gwahoddir preswylwyr yn ardal Hwlffordd i gwrdd â Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu (CHTh), a chynrychiolwyr o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh), mewn Cymhorthfa Gymunedol nos Fawrth 10 Mehefin 2025.

Cynhelir y gymhorthfa yn HaverHub, Hwlffordd, rhwng 5 a 7 o’r gloch, gan roi cyfle i bobl leol fynegi pryderon, holi cwestiynau a rhannu eu barn am blismona a diogelwch cymunedol.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymrwymiad parhaus y Comisiynydd i wrando ar y cyhoedd a sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed wrth lunio blaenoriaethau plismona yn ardal Dyfed-Powys.

Caiff preswylwyr archebu slot 30 munud drwy anfon e-bost at:
📧 opcc.communication@dyfed-powys.police.uk
neu drwy sganio’r cod QR ar ddeunyddiau hyrwyddo.

Mae archebu’n gyflym a hawdd, ac mae croeso i bawb.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 01/06/2025