Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys (CHTh), Dafydd Llywelyn, wedi rhyddhau manylion cynlluniau Fferm Solar arfaethedig y mae Heddlu Dyfed-Powys yn bwriadu ei datblygu ar ran o dir sydd heb ei ddatblygu yn eu Pencadlys yn Llangynnwr, Caerfyrddin.

Byddai'r cynlluniau'n gweld 1,420 o baneli ffotofoltäig (PV) yn cael eu gosod ochr yn ochr â system storio batri gysylltiedig a gwaith ategol arall ar y safle, nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Unwaith y bydd ar waith, disgwylir i'r Fferm Solar gynhyrchu tua 592,245 kWh o drydan bob blwyddyn. O hyn, bydd tua 88% yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol gan Heddlu Dyfed-Powys, gan helpu i leihau dibyniaeth ar drydan grid a chyfrannu at arbediad carbon blynyddol sylweddol o tua 109,647 kg. Er y bydd yr arbedion cost terfynol yn dibynnu ar brisiau ynni yn y dyfodol, disgwylir i'r Fferm Solar ddarparu arbedion hirdymor sylweddol ar filiau ynni blynyddol yr heddlu. Nod hirdymor y prosiect yw torri costau ynni a chefnogi ei ymrwymiadau cynaliadwyedd ehangach drwy gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy ar y safle.

Y cwmni gwasanaethau eiddo tiriog masnachol a buddsoddi, CBRE, yw'r asiantau sy'n gweithredu ar ran y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â'r cais cynllunio, ac maent wedi lansio ymgynghoriad cyn-gais cynllunio, gan geisio adborth gan y cyhoedd ar gynlluniau'r Fferm Solar cyn y byddant yn cyflwyno eu cais cynllunio i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Fel rhan o'r ymgynghoriad cyn-gais cynllunio, bydd CBRE yn cynnal digwyddiad ymgynghori cyhoeddus wyneb yn wyneb, a gynhelir yn Llyfrgell Caerfyrddin ar y 10fed o Orffennaf (0900 -18:30). Gellir gweld yr holl wybodaeth am y cynlluniau arfaethedig ar y ddolen isod, lle mae cyfle hefyd i unrhyw un wneud sylwadau.

Gweler yr ymgynghoriad Fferm Solar yma.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: “Mae buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd a gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus. Drwy ddatblygu Fferm Solar yn ein Pencadlys, gallwn leihau ein hôl troed carbon, gwneud arbedion hirdymor ar ein biliau ynni a chyfrannu at ddyfodol mwy gwyrdd i’n cymunedau. Rwy’n annog y cyhoedd, yn enwedig trigolion ardal Llangynnwr, i ymgysylltu â’r ymgynghoriad cyn y cais cynllunio, er mwyn sicrhau ein bod yn casglu barn trigolion lleol cyn cyflwyno’r cais cynllunio.”

Mae’r Ymgynghoriad ar agor tan 25 Gorffennaf 2025.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 07/07/2025