Cynhaliwyd symposiwm ymchwil Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan ym Mhrifysgol Wrecsam, gan ddod â heddluoedd, sefydliadau academaidd a Chomisiynwyr ynghyd i archwilio sut y gall ymchwil wella ymddiriedaeth gyhoeddus ac effeithiolrwydd ledled Cymru.

Nodwedd allweddol o’r symposiwm fydd gweithdy a arweinir gan Swyddfeydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sy’n dwyn y teitl ‘Blaenoriaethau Plismona a Chyfleoedd Ymchwil’. Yn y gweithdy hwn, bydd staff SCHTh Dyfed-Powys yn amlinellu’r hyn yw Cynllun Heddlu a Throseddu, yn darparu trosolwg o flaenoriaethau cyfredol ar draws y pedair ardal heddlu yng Nghymru, ac yn gwahodd ymchwilwyr i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn er mwyn sicrhau bod ymchwil yn y dyfodol mor berthnasol a dylanwadol â phosibl.

Dywedodd y CHTh Dafydd Llywelyn:
"Mae dod â mewnwelediad academaidd a blaenoriaethau plismona ynghyd yn hanfodol os ydyn ni am wneud cynnydd gwirioneddol mewn meysydd sydd bwysicaf i’n cymunedau. Mae digwyddiadau fel y symposiwm hwn yn ein helpu i sicrhau bod ymchwil wedi’i seilio ar heriau mewn bywyd go iawn sy’n wynebu plismona yng Nghymru, a hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.'

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Dros Dro Ross Evans, Cyd-gadeirydd Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan:
“Mae ffydd a hyder wrth galon plismona effeithiol, ac mae eu hailadeiladu’n flaenoriaeth glir ar gyfer heddluoedd ledled Cymru. Drwy Gydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan, rydyn ni’n harneisio’r gorau o fewnwelediad academaidd a phrofiad rheng flaen i lunio’r datrysiadau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaethau i gymunedau. Mae symposiwm heddiw’n gyfle i ddathlu’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud, a llywio gwaith yn y dyfodol a fydd yn helpu i sicrhau bod plismona yng Nghymru’n deg a thryloyw, a bod pawb yn ymddiried ynddo.”

Mae siaradwyr yn y digwyddiad yn cynnwys Syr Andy Cooke OBE (Prif Arolygydd Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi) a'r Athro Elizabeth Stanko OBE, cyn Bennaeth Tystiolaeth, a Mewnwelediad SCHTh Llundain. Byddant yn adlewyrchu ar ddiwylliant plismona, ymddygiad, a rôl hanfodol cydweithrediad academaidd-heddlu.

Mae’r symposiwm hwn yn rhan o genhadaeth ehangach i adeiladu partneriaethau cryfach rhwng plismona a phrifysgolion ledled Cymru, gyda ffocws ar gynyddu hyder a ffydd y cyhoedd mewn plismona.

Article Date: 18/09/2025