Cynhadledd Dydd Gŵyl Dewi 2026 i Archwilio Arloesedd Digidol mewn Plismona Modern
Bydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnal ei 10fed Gynhadledd Dydd Gŵyl Dewi ar 4 Mawrth 2026, gan ddod â gweithwyr proffesiynol plismona, academyddion, partneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i archwilio sut mae arloesedd digidol a thechnoleg sy'n dod i'r amlwg yn llunio plismona modern a diogelwch cymunedol.
📅 Dydd Mercher, 4th Mawrth, 2026
🕓 9.30 -4.30
📍 Dyfed-Powys Police Headquarters ac ar-lein
💻 Cofrestrwch Fan Hyn: Policing in a Digital Age Conference
Bydd cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar bynciau gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, technoleg adnabod wynebau, seiberdroseddu a bygythiadau digidol, fforensig digidol, technoleg Canolfan Gyfathrebu'r Heddlu ac offer hyfforddi trochol, ochr yn ochr â myfyrio ar ddegawd o weithio mewn partneriaeth ar draws ardal Dyfed-Powys.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr cenedlaethol ac academaidd, gan gynnwys y Prif Arolygydd Scott Lloyd, Cydlynydd Gwyddoniaeth ac Arloesedd Cenedlaethol yng Nghyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC), a fydd yn siarad ar ddefnyddio technoleg adnabod wynebau mewn plismona, ac Andrew Saniforth, y mae ei ymchwil yn archwilio mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ar draws heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu hategu gan amrywiaeth o gyflwyniadau mewnol yn dangos sut mae technoleg yn cael ei ddefnyddio o fewn Dyfed-Powys i wella cyswllt â'r cyhoedd, mynd i'r afael â seiberdroseddu, cryfhau ymchwiliadau a chefnogi swyddogion a staff ochr yn ochr â thrafodaeth am offer sy'n dod i'r amlwg ac arloesedd yn y dyfodol.
Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:
“Mae technoleg yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y ffordd rydym yn amddiffyn cymunedau, yn cefnogi dioddefwyr ac yn ymateb i droseddu. Bydd Cynhadledd Dydd Gŵyl Dewi eleni yn gyfle i archwilio sut mae offer digidol, arloesedd a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio'n gyfrifol, gan gynnal ymddiriedaeth a chyfrifoldeb y cyhoedd.
“Hoffwn ddiolch i'n siaradwyr am rannu eu hamser a'u harbenigedd. Bydd clywed safbwyntiau cenedlaethol, academaidd a lleol ar dechnoleg ac arloesedd mewn plismona yn creu rhaglen ddiddorol ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y trafodaethau y bydd hyn yn eu creu.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 31/01/2026