tynnu sylw at arferion diogelu cadarnhaol ar draws ein cymunedau, gan ddathlu gwaith hanfodol partneriaid a gwasanaethau sy’n helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag niwed.

Mae diogelu’n fwy nag ymateb pan mae rhywbeth yn mynd o’i le. Mae’n ymwneud ag atal niwed cyn iddo ddigwydd, adnabod peryglon yn gynnar, a datblygu diwylliant lle mae pawb yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi a’i ddiogelu. Mae arferion diogelu cadarnhaol yn canolbwyntio ar gydweithio, rhannu dysgu a rhoi pobl wrth galon pob penderfyniad.

Gweithio Mewn Partneriaeth
Mae gan SCHTh gyfrifoldeb statudol i hyrwyddo lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Ond ni all un sefydliad yn unig sicrhau diogelwch. Mae’n dibynnu ar bartneriaethau cryf rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.

Mae swyddfa’r Comisiynydd yn comisiynu amrediad o wasanaethau arbenigol sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, gan helpu i leihau aildroseddu a gwella diogelwch cymunedol ledled ardal Dyfed-Powys. Mae’r gwasanaethau hyn yn sicrhau bod gan bobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd fynediad at gymorth ymarferol, cefnogaeth emosiynol a chyngor arbenigol pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Datblygu Cymunedau Mwy Diogel Gyda’n Gilydd
Mae Wythnos Ddiogelu’n gyfle i gydnabod y gwaith cadarnhaol sydd eisoes yn digwydd ar draws ein hardal, a chryfhau ein hymrwymiad ar y cyd tuag at ddiogelu eraill.

Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n parhau i weithio gyda’r partneriaid i hyrwyddo ymyrraeth gynnar, codi ymwybyddiaeth a chomisiynu gwasanaethau sy’n rhoi pobl yn gyntaf.

Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel lle mae pawb – plant, pobl ifainc ac oedolion – yn cael eu cefnogi i fyw heb ofn ac wedi’u gwarchod rhag niwed.

Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar ein gwefan: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 10/11/2025