Diwrnod Plant y Byd: Sut Mae Pobl Ifainc yn Cyfrannu at Blismona yn Nyfed-Powys
Mae 20 Tachwedd 2025 yn nodi Diwrnod Plant y Byd. Y thema eleni yw ‘cynhwysiant i bob plentyn’. Mae UNICEF yn arddel Diwrnod Plant y Byd, sy’n cydnabod ac yn tynnu sylw at hawliau plant ar draws y byd. Mae’r diwrnod yn fodd i chwyddo lleisiau plant a phobl ifainc o ran eu hawliau a’u barn.
Ym mis Rhagfyr 2018, creodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, Gynlluniau Llysgenhadon Ieuenctid ar gyfer pobl ifainc 14-25 oed sy’n byw, yn astudio neu’n gweithio yn ardal Dyfed-Powys. Mae’r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yn rhoi llais i bobl ifainc a llwyfan i godi ymwybyddiaeth o faterion cyfredol a chyfrannu at fynd i’r afael â phroblemau a wynebir gan bobl ifainc ledled y rhanbarth. Mae’r Llysgenhadon Ieuenctid yn helpu i lunio dyfodol plismona.
Beth mae’r Llysgenhadon Ieuenctid yn ei wneud?
- Ein helpu i adnabod blaenoriaethau pobl ifainc
- Creu ymgyrchoedd cyffrous a fydd yn codi ymwybyddiaeth o flaenoriaethau pobl ifainc
- Ymgynghori â phobl ifainc am faterion plismona a throsedd yn lleol a rhoi adborth i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- Cefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu â’i waith craffu drwy fynd i ambell gyfarfod i herio penderfyniadau, darparu argymhellion, a dylanwadu ar newid er budd pobl ifainc yn ein hardal.
Dywed Dafydd Llywelyn, CHTh:
“Mae’r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yn gyfle i bobl ifainc roi eu barn am blismona a materion cyfredol a wynebir gan eu cymheiriaid yng nghymunedau Dyfed-Powys. Mae lleisiau pobl ifainc yn aml yn cael eu tangynrychioli a ddim yn cael eu clywed. Mae’r cynllun hwn yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac yn datblygu perthnasau rhwng pobl ifainc a phobl hŷn.”
Gall pobl ifainc ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a all fod yn berthnasol i holl agweddau eu bywydau a gwella eu CV. Mae gwirfoddoli’n hyblyg a gall weithio o gwmpas amserlenni prysur neu ymrwymiadau addysg presennol pobl ifainc. Mae’r llysgenhadon yn gweithio ochr yn ochr â gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol, cyfoedion a chymunedau lleol – Codwch eich llais, Gwnewch wahaniaeth cadarnhaol.
Am ragor o wybodaeth neu er mwyn cofrestru, anfonwch e-bost at opcc.communication@dyfed-powys.police.uk neu galwch heibio i https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/llysgenhadon-ieuenctid/
Article Date: 20/11/2025