Bob blwyddyn ar 31 Awst, mae Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos yn dod â chymunedau o bedwar ban byd at ei gilydd i weithredu ynghylch gorddosio. Mae’r diwrnod penodedig yn gweld cymunedau’n cynnal digwyddiadau ac yn sgwrsio â’r nod o atal gorddos, newid deddfwriaeth, ac ennyn tosturi a dealltwriaeth ar gyfer y rhai sydd angen cymorth.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos yn argymell pedair ffordd o gymryd rhan:

  1. Cynnal digwyddiad i gofio’r rhai a fu farw oherwydd gorddos, codi ymwybyddiaeth a chodi arian.
  2. Cael adnoddau drwy lawrlwytho pecynnau ymgyrch ar y wefan a’u rhannu mewn gweithleoedd a mannau cymunedol.
  3. Talu teyrnged i anwylyn ar dudalen Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos.
  4. Cael nwyddau i ddangos eich cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r achos.

Cewch ragor o wybodaeth am orddosio, atal ac ystadegau ar wefan Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos.

Yn ardal Dyfed-Powys, mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed a Kaleidoscope Powys yn anelu i leihau’r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau. Cynigir y cymorth i’r defnyddiwr gwasanaeth, pobl sy’n agos atynt, a’u cymuned ehangach. Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed yn gweithredu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Mae gwasanaethau Kaleidoscope yn gweithredu ym Mhowys. Mae’r ddau hefyd yn cefnogi unigolion sydd wedi’u harestio, hyd at eu dedfryd, i uchafu nifer y bobl sy’n llwyddo mewn rhaglenni triniaeth.

Mewn cydweithrediad â Choices, gwasanaeth i bobl ifainc, mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed hefyd yn cynnig gwasanaeth ‘Spike on a Bike’ sy’n darparu offer chwistrellu glân a  gwasanaethau lleihau niwed eraill i bobl. Gwasanaeth am ddim yn syth i’ch drws yw hwn. Y nod yw arbed bywydau drwy leihau haint a chynnig cyngor atal gorddos.

Dywed Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:

“Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnig cymorth arbennig a gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth, teulu a ffrindiau, a’r cymunedau yn ardal Dyfed-Powys. Yr wyf yn falch o barhau i weithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed a’r gwasanaethau arbennig maen nhw’n cynnig i’n cymunedau. Diolch am eich ymdrechion parhaus a’ch angerdd tuag at ein cymunedau.”

 

Cysylltu â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed:

0330 363 9997

confidential@d-das.co.uk

 

Cysylltu â Kaleidoscope Powys:

Y Trallwng: 01938 555922

Y Drenewydd: 01686 610 422

Llandrindod: 01597 825 102

Aberhonddu: 01874 622 333

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 29/08/2025