Mae pobl ifainc ledled ardal Dyfed-Powys yn cael mwy o amser i ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol gwasanaethau lleol.

Mae’r arolwg Pobl Ifainc – Lluniwch Ein Gwasanaethau a lansiwyd gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, nawr wedi’i estyn tan ddydd Sul 28 Medi, gan roi cyfle i bobl ifainc rannu eu barn am yr hyn sydd bwysicaf iddynt a beth maen nhw eisiau gan wasanaethau lleol.

Bydd yr adborth a gesglir, ynghyd ag ymatebion o Alwad Agored am Dystiolaeth, yn bwydo’n uniongyrchol i Bwyllgor Dethol y Comisiynydd, sy’n archwilio pa mor dda mae gwasanaethau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gweithio i bobl ifainc ledled yr ardal.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Rwyf eisiau sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn cael y cyfle i ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddynt. Dyma’u cyfle nhw i godi eu llais a helpu i lunio gwasanaethau sy’n cefnogi eu diogelwch, eu lles a’u dyfodol.”

Mae’r Alwad Agored am Dystiolaeth yn gwahodd unigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol i rannu mewnwelediadau am sut y gall gwasanaethau helpu i atal pobl ifainc rhag dod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol a’u cefnogi’n well yn eu cymunedau.

Sut i gymryd rhan:

Mae’r comisiynydd yn annog ysgolion, grwpiau ieuenctid, teuluoedd ac arweinwyr cymuned i helpu i ledaenu’r gair a sicrhau bod lleisiau pobl ifainc yn cael eu clywed.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Open Call for Evidence poster in Welsh

Article Date: 20/08/2025