Yn dilyn adolygiad diweddar o’r defnydd o ddillad gwrth-rwyg, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Siwtiau Gwrth-niwed neu Berygl Arbennig, ar draws dalfeydd yn ardal Dyfed-Powys, gwnaed argymhelliad i Brif Swyddogion ddileu’r defnydd ohonynt yn llwyr.

Daw hyn yn sgil craffu cenedlaethol cynyddol o gwmpas y defnydd o'r fath ddillad, sydd heb eu cymeradwyo’n ffurfiol gan y Swyddfa Gartref neu unrhyw fwrdd rheoleiddio plismona.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) ymysg y cyntaf yn y DU i weithio gyda’r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ar gynllun peilot cenedlaethol yn 2022, gan archwilio i effaith a chyfranoledd defnyddio siwtiau gwrth-rwyg yn y ddalfa. Helpodd canfyddiadau’r cynllun peilot hwnnw i lunio trafodaethau cenedlaethol, gan hysbysu adroddiad cenedlaethol dilynol y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, a oedd yn galw am ddileu siwtiau gwrth-niwed yn llwyr ac i heddluoedd ganolbwyntio ar dechnegau arsylwi, lleihau niwed a thawelu effeithiol yn lle hynny.

Mae’r ymagwedd hon yn gyson ag argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (AHGTAEF) ym mis Awst 2023, a dynnodd sylw at bwysigrwydd diogelu carcharorion sy’n agored i niwed, ac ar yr un pryd, yn cynnal urddas a chyfranoledd mewn dalfeydd.

Meddai Jenna Jones, Pennaeth Gwasanaethau Dalfa:
Mae dileu siwtiau gwrth-niwed o ddalfeydd Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn gam cadarnhaol tuag at ofal mwy urddasol a thosturiol ar gyfer carcharorion o fewn yr heddlu. Er eu bod wedi’u defnyddio’n wreiddiol i atal y rhai sydd angen cymorth a chefnogaeth rhag hunan-niweidio, roedd eu defnyddio’n aml yn achosi mwy o ofid, ac yn aml, gellid eu hystyried yn ddiraddiol. Mae mwy o bwyslais ar reoli risg carcharorion o fewn ein dalfeydd, canolbwyntio ar ymyriadau mwy diogel, mwy o wiriadau lles a sicrhau ymagwedd a hysbysir gan drawma. Rydyn ni’n cefnogi ein staff dalfa drwy fwy o hyfforddiant o gwmpas niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl, hyrwyddo dealltwriaeth o anghenion unigolion a gwella hyder y cyhoedd o gwmpas ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys i ddiogelu unigolion yn ein gofal. 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae ein gwaith ar y cyd â’r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd wedi chwarae rhan bwysig o ran gwella arferion dalfa yn lleol ac yn genedlaethol. Rwy’n croesawu dod â’r defnydd o siwtiau gwrth-niwed i ben a chanolbwyntio ar ymagweddau proffesiynol a thosturiol sy’n gwarchod unigolion sy’n agored i niwed yng ngofal yr heddlu.“

Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad parhaus Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod amgylcheddau dalfa’n ddiogel a thosturiol, ac yn cydymffurfio â safonau cenedlaethol a chanllawiau arfer gorau.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 31/10/2025