Mae pobl sy’n byw yn ardal Dyfed-Powys yn cael eu hannog i rannu eu barn am drosedd, diogelwch a phlismona yn eu cymunedau.

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys yn cefnogi Arolwg Troseddau Gwledig newydd, wedi’i arwain gan Brifysgol Aberystwyth, i ddeall yr heriau unigryw sy’n wynebu cymunedau gwledig ar draws y rhanbarth.

Mae’r arolwg yn ffurfio rhan o’r Prosiect Partneriaeth ac Arloesi Lleol, sydd wedi’i ariannu gan UK Research and Innovation. Bydd canfyddiadau’n helpu i hysbysu sut mae’r heddlu, partneriaid diogelwch cymunedol a sefydliadau gwledig yn gallu cydweithio’n fwy effeithiol i atal a lleihau trosedd mewn lleoliadau gwledig ac amaethyddol.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Mae ardal Dyfed-Powys yn cwmpasu rhai o’r ardaloedd mwyaf gwledig yn y DU. Ni ddylai byw yng nghefn gwlad olygu’ch bod chi’n cael eich anwybyddu pan ddaw’n fater o atal, diogelwch cymunedol, neu amlygrwydd yr heddlu. Byddwn yn annog pob preswylydd, busnes a ffermwr i neilltuo munud neu ddau i gwblhau’r arolwg a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.”

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Clark Jones-John:

“Rydyn ni’n ymwybodol o effaith sylweddol troseddau gwledig ar ddioddefwyr a’r gofid y gall achosi i’r gymuned ehangach. Byddwn yn annog preswylwyr i fanteisio ar y cyfle i fynegi eu barn a dweud eu dweud drwy gwblhau’r arolwg. Mae’r arolwg ar agor i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio mewn cymuned wledig yn ardal Dyfed-Powys, a gellir ei gwblhau ar-lein yn Gymraeg neu Saesneg.

Cymraeg: Arolwg Troseddau Gwledig - LPIP 2025 - Cymraeg 
Saesneg: Arolwg Troseddau Gwledig - LPIP 2025 - Saesneg

Mae’r arolwg yn cau ddydd Sul 22 Medi 2025.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 13/08/2025