Lansio Gwasanaeth Cymorth Newydd ar gyfer Teuluoedd sy’n Galaru yn dilyn Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd yng Nghymru
Lansio Gwasanaeth Cymorth Newydd ar gyfer Teuluoedd sy’n Galaru yn dilyn Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd yng Nghymru
Bydd gan deuluoedd ledled ardaloedd Dyfed-Powys a De Cymru sydd wedi colli anwyliaid mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd fynediad yn awr at gymorth arbenigol penodedig drwy Wasanaeth Cymorth Dioddefwyr Ffyrdd newydd, a ariennir gan Dafydd Llywelyn ac Emma Wools, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Wedi’i gyflenwi gan yr elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr, mae’r gwasanaeth newydd yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy’n galaru o ganlyniad i wrthdrawiad traffig ffyrdd, ac mae’n cael ei ariannu am ddeuddeg mis.
Bydd cymorth yn helpu pobl yn union ar ôl y drasiedi, yn ogystal â’u cefnogi gyda’r effeithiau tymor hir a’r trawma a ddioddefir gan deuluoedd a chymunedau.
Bydd pob teulu a gyfeirir at y gwasanaeth yn cael cynnig cymorth personol un-i-un gan weithiwr achos profiadol sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig. Bydd y gweithiwr achos penodol hwn yn helpu teuluoedd i lywio’r heriau emosiynol, ymarferol a chyfreithiol sy’n aml yn dilyn gwrthdrawiad angheuol, o ddarparu clust i wrando ac arweiniad ar y broses cyfiawnder troseddol, i gysylltu teuluoedd â chymorth arbenigol ychwanegol neu gymorth ariannol.
Mae’r gwasanaeth yn derbyn cyfeiriadau drwy Swyddogion Cyswllt Teulu’r Heddlu neu hunanatgyfeiriadau uniongyrchol. Mae cymorth ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac mae cyfieithwyr ar gael a chymorth yn cael ei addasu i ddarparu ar gyfer anghenion unigol.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Ni ddylai’r un teulu orfod wynebu canlyniad trasiedi traffig ffyrdd ar ben ei hun. Drwy ariannu’r gwasanaeth hollbwysig hwn, rwyf eisiau sicrhau bod y rhai sy’n cael eu gadael ar ôl yn cael y tosturi, cymorth a gwybodaeth sydd angen arnynt ar adeg mor ofnadwy. Byddwn yn annog unrhyw un y gallai fod angen cymorth arno i estyn allan. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yno i chi, pryd bynnag rydych chi’n barod.”
Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
"Mae marwolaethau traffig ffyrdd yn cael effaith andwyol ar deuluoedd a chymunedau lleol. Ym mis Medi 2024, ynghyd â’m cymheiriaid ar draws Cymru, arwyddom Lw Prosiect Edward i greu amgylchedd ffyrdd mwy diogel i bawb, gan gyfrannu at y nod o ‘Bob Dydd Heb Farwolaeth ar y Ffyrdd’.
"Wrth inni weithio tuag at gyflawni’r llw hwn, mae’n dda iawn gennyf lansio’r Gwasanaeth Cymorth Dioddefwyr Ffyrdd, a gyflenwir gan Gymorth i Ddioddefwyr, a fydd yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Cyswllt Teulu ac yn darparu eiriolaeth a chymorth penodol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan wrthdrawiadau traffig ffyrdd angheuol. Os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch chi neu anwylyn, cofiwch fod gwasanaeth penodol yn barod amdanoch.”
Ychwanegodd Jessica Brooks, Rheolwr Ardal Cymorth i Ddioddefwyr:
“Ni all unrhyw beth eich paratoi ar gyfer y sioc a’r trawma o golli anwylyn yn sydyn mewn damwain traffig ffyrdd. Mae’n fraint gennym gyflenwi’r gwasanaeth hwn sydd fawr ei angen, a fydd yn darparu cymorth hanfodol yn y dyddiau a’r wythnosau wedi hynny, ynghyd â chymorth i lywio’r heriau tymor hirach mae teuluoedd mewn galar yn eu hwynebu, wrth iddynt greu normal newydd.
“Os ydych chi wedi cael eich effeithio, cysylltwch â’n gwasanaethau am gymorth.”
Gall unrhyw un sydd wedi’i effeithio gysylltu drwy alw llinell gymorth 24 awr Cymorth i Ddioddefwyr ar 08 08 16 89 111, e-bostio walesroadservice@victimsupport.org.uk, neu gwblhau hunanatgyfeiriad ar-lein.
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i Gwrthdrawiad traffig ffyrdd - Cymorth i Ddioddefwyr.
Gwybodaeth bellach:
Ynglŷn â Chymorth i Ddioddefwyr
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen annibynnol sy'n ymroddedig i gefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan droseddau a digwyddiadau trawmatig yng Nghymru a Lloegr. Mae ein gwasanaethau'n helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan unrhyw fath o drosedd. Rydym yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym yn cynnig cymorth waeth a yw pobl wedi rhoi gwybod am y drosedd i'r heddlu neu pryd y digwyddodd.
Article Date: 09/10/2025