Lansiwyd System Negeseuon Cymunedol Newydd ar draws ardal Dyfed-Powys

Lansiwyd System Negeseuon Cymunedol Newydd ar draws ardal Dyfed-Powys
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi croesawu lansiad y system negeseuon cymunedol newydd Cyswllt Dyfed-Powys, sydd nawr yn fyw ar draws ardal Dyfed-Powys.
Bydd y system, sydd wedi ei ariannu drwy Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chyllid y Swyddfa Gartref, yn darparu’r cyfle i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i gael eu cynnwys yn yr hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau lleol.
Mae Cyswllt Dyfed-Powys yn fwy na llwyfan negeseuon. Wrth lanio’n uniongyrchol i fewnflychau e-bost pobl, bydd yn darparu diweddariadau ar faterion plismona lleol, digwyddiadau cymunedol, cyngor atal trosedd a mwy. Gall ddefnyddwyr ddewis pa wybodaeth y maent yn ei derbyn a phryd y maent yn ei derbyn, a gallant ryngweithio drwy roi ateb uniongyrchol i rybuddion, cwblhau arolygon, neu rannu pryderon.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:
“Rwyf yn falch o fod wedi cefnogi lansiad Cyswllt Dyfed-Powys, a fydd yn offeryn pwysig ar gyfer adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng cymunedau, yr heddlu, a phartneriaid ar draws yr ardal. Mae’n hanfodol fod pobl yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn cael eu cynnwys ac yn gallu dweud eu dweud ar faterion lleol, ac mae’r system hon yn cynnig ffordd fodern a hygyrch o wneud hynny’n union.”
Yn ogystal ag i gefnogi ymgysylltu cymunedol, bydd Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu nawr yn defnyddio’r system i rannu diweddariadau gyda phartneriaid, rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd. Gall unrhyw un sy’n cofrestru hefyd ddewis derbyn diweddariadau rheolaidd yn uniongyrchol gan SCHTh, gan gynnwys newyddion ynghylch prosiectau, ymgynghoriadau a chyfleoedd i gymryd rhan.
I gael mwy o wybodaeth a chofrestru ewch at: https://www.cyswlltdyfed-powys.co.uk/
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 22/09/2025