Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Llywelyn yn cefnogi lansiad rhaglen Heddlu Bach cyntaf Gorllewin Cymru
Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, ag Ysgol Penrhos i helpu i lansio rhaglen Heddlu Bach cyntaf Gorllewin Cymru.
Bydd y rhaglen yn gweld disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, dengar sy’n eu cyflwyno i blismona lleol, diogelwch cymunedol a dinasyddiaeth gadarnhaol. Fel rhan o’i ymrwymiad i gefnogi pobl ifainc ledled ardal Dyfed-Powys, mae CHTh wedi ariannu lifrai newydd Heddlu Bach y disgyblion i helpu i ddod â’r prosiect yn fyw.
Gan siarad yn y lansiad, dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn:
“Mae’n dda gennyf gefnogi’r garfan Heddlu Bach cyntaf yma yng Ngorllewin Cymru. Mae’r rhaglen yn ffordd wych o fagu hyder, cryfhau cysylltiadau cymunedol a helpu pobl ifainc i ddeall pwysigrwydd y rôl bwysig mae plismona’n chwarae o ran cadw pawb ohonom yn ddiogel.
Cynllun cenedlaethol yw’r fenter Heddlu Bach, a arweinir gan dimoedd plismona ledled y DU, gan roi cyfleoedd cynnar i blant ddysgu am ddiogelwch, parch a chyfrifoldebau bod yn rhan o’u cymuned."
Dywedodd y Cynghorydd Louvain Roberts:
"Roedd hi'n wych gweld cyffro wynebau'r plant wrth iddynt osod eu gwisgoedd Heddlu Mini gyda balchder. Rwy'n falch o fod wedi helpu i ddod â'r prosiect hwn i'n cymuned a diolchgar i Gomisynydd Llywelyn am ei gefnogaeth. Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad positif a chofiadwy i'n pobl ifanc i'r heddlu, ac mae'n amlwg o lansiad heddiw faint mae eisoes yn ei olygu iddynt."
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 09/12/2025