Mynnwch Ddweud Eich Dweud am Blismona yn Ardal Dyfed-Powys
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn galw ar aelodau o’r cyhoedd o bob cwr o’r ardal i gymryd rhan mewn arolwg byr i rannu eu barn am blismona lleol.
Mae’r arolwg yn gyfle i breswylwyr, grwpiau cymunedol a gweithwyr proffesiynol ddylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol o gwmpas trosedd, diogelwch cymunedol a chyflenwi blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu 2025–2029.
Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn:
“Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rwyf eisiau sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael eu clywed – yn arbennig y rhai sydd ddim fel arfer yn ymgysylltu â phlismona.
Rhan o’n hymrwymiad i ymgynghori ystyrlon yw’r arolwg hwn. Anogaf bobl o bob cefndir ledled ardal Dyfed-Powys i’w gwblhau a helpu i lunio’r gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymunedau.”
Mae’r arolwg, sydd ar agor nawr drwy’r ddolen isod, ond yn cymryd ychydig funudau i’w gwblhau:
🔗 Cliciwch yma i gwblhau’r arolwg
Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Heddlu a Throseddu, galwch heibio i:
www.dyfedpowys-pcc.org.uk
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 05/08/2025