Poster yn hysbysebu cynhadledd fusnes am ddim i fusnesau lleol yn ardal Dyfed-Powys, gyfa ffocws are wydnwch seiber, diogelu data  bygythiaday digidol. Bydd y digwyddiadyn cynnwys y siaradwr gwadd Nigel Owens, gyda chinio am ddim yn cael ei ddarparu.

Anogir busnesau a sefydliadau i gryfhau eu seiberwydnwch mewn cynhadledd am ddim yn Llanelli fis nesaf, sy’n dod ag arbenigwyr seiberddiogelwch blaenllaw, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a’r siaradwr gwadd, Nigel Owens MBE, at ei gilydd.  

 

Wedi’i chynnal gan Ganolfan Seiberwydnwch Cymru mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, bydd y gynhadledd yn dod ag arbenigwyr seiberddiogelwch a sefydliadau at ei gilydd i rannu cyngor ymarferol, mewnwelediadau o’r byd go iawn a’r canllawiau diweddaraf ar gryfhau seiberwydnwch.

 

Mae’r digwyddiad ar agor i sefydliadau o bob maint, o unig fasnachwyr i fusnesau mwy, gyda chyngor ymarferol ar gyfer pawb, nid dim ond gweithwyr TG proffesiynol.

 

Cynhalir y gynhadledd ddydd Mawrth 8 Rhagfyr ym Bridge Innovation Centre, Pembroke Dock.

 

Gyda seiberdroseddu’n parhau i esblygu, mae sefydliadau o bob maint yn wynebu bygythiadau sy’n gynyddol soffistigedig. Bydd y gynhadledd yn darparu cyngor ymarferol, mewnwelediadau o’r byd go iawn a chamau syml y gall busnesau a sefydliadau eu cymryd i gryfhau eu seiberwydnwch a diogelu eu hunain yn well rhag seiberdroseddu.

Tra bod seiberddiogelwch yn aml yn cael ei ystyried yn fater TG, mae seiberwydnwch yn dibynnu ar bawb o fewn sefydliad. Gan hynny, mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer perchnogion busnes, arweinwyr uwch, rheolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr, gan gynnig arweiniad ymarferol y gall sefydliadau o bob maint eu rhoi ar waith.

Bydd y rhai sy’n bresennol yn clywed gan arbenigwyr seiberddiogelwch, cynrychiolwyr o Heddlu Dyfed-Powys, a’r siaradwr gwadd, Nigel Owens MBE, a fydd yn rhannu mewnwelediadau yn ystod prynhawn o gyflwyniadau arbenigol, cyngor ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio.

 

Darperir cinio a lluniaeth am ddim hefyd, gan gynnig cyfle i’r rhai sy’n bresennol rwydweithio cyn a thrwy gydol y digwyddiad.

 

 Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Nid yn unig sefydliadau mawr mae troseddwyr seiber yn eu targedu. Mae busnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol yn cael eu targedu fwyfwy hefyd, gan ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed bod sefydliadau’n deall sut i ddiogelu eu hunain.

 

 “Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle gwych i glywed gan arbenigwyr, dysgu ffyrdd ymarferol i leihau perygl a chryfhau gwydnwch yn erbyn bygythiadau seiber sy’n dod i’r amlwg.

 

“P’un a ydych chi’n unig fasnachwr, yn elusen, yn fusnes bach neu’n sefydliad mwy, byddwn yn eich annog i gofrestru a gwneud y mwyaf o’r cyfle gwerthfawr hwn.”

 

Mae’r gynhadledd am ddim, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd, felly mae’n rhaid archebu ymlaen llaw.

 

Dyddiad: 8 Rhagfyr 2026

Amser: 13:00-16:30

Lleoliad: Bridge Innovation Centre, Pembroke Dock

Pris: Am ddim

 

llun

Article Date: 18/11/2026