Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn lansio Panel Craffu Cymunedol newydd ac yn gwahodd aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan.

Bydd y panel cyntaf yn digwydd yn Aberystwyth ar:

đź“…25 Chwefror
đź•“4-7pm
📍Gwesty'r Marine, Teras y Marine, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2DA

Bydd aelodau'r panel yn adolygu cyswllt yr heddlu â'r cyhoedd yn annibynnol mewn ffordd dryloyw a diduedd. Bydd gwirfoddolwyr yn craffu ar ansawdd rhyngweithiadau'r heddlu, y defnydd moesegol o bwerau'r heddlu a'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i gymunedau.

Mae'r panel yn gweithredu fel llais cyhoeddus annibynnol, gan ddarparu barn ac argymhellion i Heddlu Dyfed-Powys i helpu i gryfhau tryloywder, atebolrwydd a hyder y cyhoedd mewn plismona.

Mae hwn yn gyfle i:

  • Gymryd rhan mewn craffu heddlu annibynnol
  • Helpu i ddylanwadu ar welliannau mewn arferion yr heddlu
  • Ennill sgiliau a phrofiad bywyd go iawn
  • Cynrychioli barn y cyhoedd

Nid oes angen profiad blaenorol. Darperir hyfforddiant ac arweiniad. Dysgwch fwy a chofrestrwch: Panel Craffu Cymunedol Panel Craffu Cymunedol: Panel Craffu Cymunedol Community Scrutiny Panel

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 30/01/2026