SCHTh yn Cefnogi Gweithdai Ieuenctid Rhuban Gwyn yng Ngorllewin Cymru
Fel rhan o Wythnos Rhuban Gwyn 2025, mynychodd cydweithwyr o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) ddigwyddiad Rhuban Gwyn a arweiniwyd gan bobl ifainc, gan ddod â disgyblion o ysgolion lleol at ei gilydd am ddiwrnod o weithdai a oedd yn canolbwyntio ar barch, diogelwch, a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Cyflwynwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â sefydliadau, gan gynnwys Yo Bro, Ein Llais, Ein Taith, By His Path, Prosiect His Journey a’r Prosiect You Should Know, a arweiniodd sesiynau rhyngweithiol wedi’u llunio i helpu pobl ifainc i adnabod ymddygiadau niweidiol a meithrin perthnasau cadarnhaol, parchus.
Roedd hi’n dda gan SCHTh ymuno â’r digwyddiad i gefnogi partneriaid lleol sy’n helpu i rymuso pobl ifainc a chryfhau gwaith atal ledled y rhanbarth.
Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn:
“Rwy’n ddiolchgar i’r holl sefydliadau sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r diwrnod pwysig hwn ar gyfer pobl ifainc lleol. Mae eu gwaith yn cyd-fynd â’r genhadaeth Rhuban Gwyn a gyda’n hymrwymiad i atal trais a chefnogi cymunedau mwy diogel.”
“Mae’r ymgyrch Yo Bro yn gwneud gwaith hollbwysig gyda bechgyn a dynion ifainc ar draws ein cymunedau. Mae eu ffocws ar wrywdod cadarnhaol, parch, a herio agweddau niweidiol yn cyd-fynd yn agos â’m blaenoriaethau. Rwy’n falch o gefnogi prosiectau sy’n grymuso pobl ifainc ac yn helpu i atal trais cyn iddo ddigwydd.”
Mae CHTh Dafydd Llywelyn hefyd wedi llofnodi’r Llw Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad tuag at fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o fewn plismona ledled ardal Dyfed-Powys.
“Drwy lofnodi’r Llw Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu, rwyf eisiau anfon neges glir nad oes lle i drais, cam-drin neu gasineb at wragedd o fewn plismona. Mae gennyf ymrwymiad o hyd i weithio gyda phartneriaid er mwyn datblygu diwylliant lle mae dioddefwyr yn cael eu cefnogi, mae pryderon yn cael eu gweithredu ac mae ffydd yn yr heddlu’n cael ei gryfhau.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 25/11/2025