Bydd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys yn Sioe Sir Benfro o 20-21 Awst 2025, gan wahodd ymwelwyr i rannu eu barn am blismona, diogelwch cymunedol a throseddau gwledig.

Sioe Sir Benfro yw un o sioeau amaethyddol mwyaf Cymru. Mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r rhanbarth. Bydd stondin SCHTh yn rhoi gwybodaeth am waith CHTh, cyfleoedd i wirfoddoli a ffyrdd y gall pobl rannu eu barn am blismona ac arolwg cymunedol.  

Bydd y tîm hefyd yn tynnu sylw at nifer o arolygon sydd ar agor ar hyn o bryd, gan roi cyfle i bobl rannu eu barn yn fanylach am faterion allweddol sy’n effeithio ar gymunedau.

Arolwg Ieuenctid
Wedi’i anelu at bobl ifainc 18-25 oed, mae’r arolwg hwn yn rhoi cyfle i bobl ifainc rannu eu barn a’u profiadau i helpu i ddylanwadu ar wasanaethau yn ardal Dyfed-Powys.

Galwad Agored am Dystiolaeth
Yn ogystal â’r arolwg, mae gennym Alwad Agored am Dystiolaeth sy’n gwahodd unrhyw un i rannu mewnwelediadau neu brofiadau o ran sut mae gwasanaethau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gweithio i bobl ifainc 18–25 oed. Mae hwn yn rhan o waith ehangach CHTh i gasglu barn am yr hyn sy’n gweithio’n dda, beth allai gael ei wella, a sut y gall gwasanaethau gefnogi pobl ifainc yn well i aros yn ddiogel ac allan o’r system cyfiawnder troseddol. Gellir cyflwyno tystiolaeth yn ysgrifenedig, yn ddienw neu drwy e-bost erbyn 24 Awst 2025.

📢 Rhagor o wybodaeth a sut i gyflwyno:
E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk
neu ysgrifennwch at:
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys,
Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF

Arolwg Canfyddiadau’r Cyhoedd
Rhannwch eich barn am blismona a throsedd yn ardal Dyfed-Powys, a helpwch i lunio cyflenwi’r Cynllun Heddlu a Throseddu.

Arolwg Troseddau Gwledig
Er mwyn i breswylwyr, ffermwyr a pherchnogion busnesau gwledig rannu eu pryderon a’u profiadau o drosedd a chefn gwlad.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn:
“Mae Sioe Sir Benfro’n gyfle gwych inni gwrdd â phobl o bob cwr o’r sir a thynnu sylw at y ffyrdd y gallant gymryd rhan mewn llunio plismona lleol. Mae’r arolygon hyn yn rhoi llais i breswylwyr a phobl ifainc i ddylanwadu ar y gwaith yr ydym yn ei wneud, a byddwn yn annog pawb i neilltuo munud neu ddau i ddweud eu dweud.”

Gall ymwelwyr hefyd gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan fel gwirfoddolwr gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gyda chyfleoedd ar gael i gefnogi craffu annibynnol ar blismona yn ardal Dyfed-Powys.

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 18/08/2025