Torri Rhwystrau Gweminar Troseddau

Menter genedlaethol yw Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb sydd yn cefnogi dioddefwyr ac yn ymgysylltu â chymunedau i frwydro yn erbyn ac yn codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn y DU. Y thema ar gyfer 2025 yw trosedd casineb a gysyllir â Anabledd i dynnu sylw at y rhwystrau a'r heriau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu.
Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cynnal gweminar ar-lein i daflu goleuni ar effaith troseddau casineb, pwysigrwydd eu hadrodd, a'r gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr.
Mae’r sesiwn yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, gyda chyfraniadau gan Gymorth i Ddioddefwyr Dyfed-Powys a Heddlu Dyfed-Powys. Gyda'u gilydd, bydd siaradwyr yn archwilio'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth adrodd troseddau casineb, yn rhannu mewnwelediad i'r dirwedd leol ac yn trafod sut y gall gwasanaethau a phartneriaid gydweithio i fynd i'r afael â'r troseddau niweidiol hyn.
14 Hydref
13:00 – 14:00
Ar-lein, Am Ddim
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn,
“Mae sicrhau bod pobl ag anableddau yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi, ac yn cael eu clywed yn rhan hanfodol o’m rôl fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae’r weminar hon yn gyfle pwysig i gydnabod ac amlygu’r heriau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu o amgylch troseddau casineb. Rwy’n annog pawb i fynychu’r weminar, gwrando a dysgu fel y gallwn barhau i wneud i bawb deimlo’n ddiogel yn ein cymunedau yn Nyfed-Powys.”
Mae croeso i bawb!
Byddwch yn rhan o'r sgwrs, codwch ymwybyddiaeth a helpwch i greu cymuned fwy diogel a chynhwysol.
Archebwch eich tocynnau fan hyn:
Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr trosedd casineb, cysylltwch â 999 neu dilynwch y canllawiau ar wefan Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb Genedlaethol.
Am ragor o wybodaeth am Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb Genedlaethol, ewch i: Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb Genedlaethol
Article Date: 03/10/2025