Wrth i Wythnos Gwirfoddolwyr 2025 gael ei dathlu ledled y DU, mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn tynnu sylw at gyfraniad amhrisiadwy gwirfoddolwyr sy’n helpu i lunio a chefnogi plismona ledled ardal Dyfed-Powys. 

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod plismona’n agored a thryloyw ac yn ymateb i anghenion cymunedau lleol. Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) yn falch o gydlynu chwe chynllun gwirfoddoli, gan gynnig cyfleoedd ystyrlon i breswylwyr wneud gwahaniaeth.  

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:  
“Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o’n teulu plismona. Mae eu hangerdd, ymrwymiad a mewnwelediad annibynnol yn helpu i lunio gwasanaeth plismona mwy tryloyw ac ymatebol. Maen nhw’n rhoi o’u hamser yn hael, gan wneud gwahaniaeth sylweddol, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt.” 

Ar hyn o bryd, mae SCHTh yn cefnogi chwe phrif gynllun gwirfoddoli: 

🔹 Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd  Mae gwirfoddolwyr yn ymweld yn ddirybudd â dalfeydd yr heddlu i gadw golwg ar hawliau, lles a thriniaeth carcharorion. Mae eu harsylwadau’n sicrhau bod gwasanaethau dalfa’n cael eu cyflenwi’n deg ac yn unol â’r gyfraith.  

🔹 Ymwelwyr Lles Anifeiliaid  Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn cadw golwg ar gŵn yr heddlu’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n derbyn gofal da, yn iach, ac yn cael eu cartrefu’n briodol. Mae’r cynllun yn hyrwyddo tryloywder o ran y ffordd mae anifeiliaid sy’n gweithio’n cael eu trin.  

🔹 Panel Sicrhau Ansawdd  Mae aelodau o’r cyhoedd yn adolygu darnau ffilm camera corff a chofnodion heddlu ar ffurf ddienw i asesu pa un ai a yw pwerau’r heddlu’n cael eu defnyddio’n deg a chymesur. Mae eu hadborth yn helpu i wella arferion ac atebolrwydd. 

🔹 Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr  Mae’r panel hwn yn dod â phobl sydd â phrofiad byw o drosedd ynghyd i roi adborth ar wasanaethau cymorth a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. Mae eu lleisiau’n helpu i lunio gwelliannau o ran gofal dioddefwyr.  

🔹 Llysgenhadon Ieuenctid  Mae pobl ifainc 14-25 oed yn gweithio gyda SCHTh i gynrychioli barn pobl ifainc, hyrwyddo ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, a chefnogi digwyddiadau, Mae’r rhaglen yn helpu i adeiladu hyder yn yr heddlu a datblygu sgiliau mewn dinasyddiaeth weithredol.   

🔹 Grŵp Ymgynghorol Annibynnol  Mae aelodau o’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn rhoi cyngor annibynnol ar sut mae arferion a pholisïau plismona’n effeithio ar gymunedau lleol. Mae’r grŵp yn gweithredu fel cyfaill beirniadol, yn arbennig mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth, a chysylltiadau cymunedol.  

Mae pob cynllun yn rhoi llais i aelodau o’r cyhoedd mewn plismona, gan atgyfnerthu ymrwymiad y Comisiynydd i gysylltiad cymunedol, tryloywder, a gwella parhaus.  

“Mae’r cynlluniau hyn yn ymwneud â rhoi’r arfau a’r gofod i bobl helpu i lunio’r ffordd y cyflwynir plismona,” ychwanegodd y Comisiynydd.   
“Mae’n ymwneud â chryfhau ffydd, rhannu profiadau, a gwella canlyniadau gyda’n gilydd.” 

I ddarganfod mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan, galwch heibio i dudalennau gwirfoddoli SCHTh:  👉 www.dyfedpowys-pcc.org.uk/en/accountability-and-scrutiny/volunteers 

Heddiw, rydyn ni’n dathlu’r gwirfoddolwyr anhygoel sy’n cefnogi plismona ledled ardal Dyfed-Powys. 👏 
O ymweliadau â dalfeydd i leisiau ieuenctid, mae eich cyfraniadau’n amhrisiadwy.  
#WythnosGwirfoddolwyr2025  

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: 
“Mae pob gwirfoddolwr yn cyfrannu at wasanaeth plismona gwell a mwy agored – a diben heddiw yw dweud diolch.” 
 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 01/06/2024