Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia, mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cefnogi cyflwyno Protocol Herbert, menter am ddim a gynlluniwyd i helpu i amddiffyn unigolion sy’n byw gyda dementia sydd mewn perygl o fynd ar goll.

Mae Protocol Herbert yn gynllun cenedlaethol sydd bellach wedi’i fabwysiadu gan Heddlu Dyfed-Powys. Mae’n annog gofalwyr, aelodau o’r teulu, neu ffrindiau i gofnodi gwybodaeth hanfodol am rywun a allai fod yn fregus. Mae hyn yn cynnwys manylion fel anghenion meddyginiaeth, hoff leoedd, arferion dyddiol, a llun diweddar.

Os bydd yr unigolyn hwnnw felly’n cael ei nodi fel unigolion sydd ar goll, gall cael yr wybodaeth hon wrth law helpu’r heddlu i ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

Gellir llenwi’r ffurflen unrhyw bryd a’i chadw gartref neu ei rhannu â darparwyr gofal lleol. Os bydd rhywun yn mynd ar goll, gellir ei throsglwyddo i’r heddlu i gynorthwyo yn y chwilio. Mae’n hollol rhad ac am ddim i’w lawrlwytho a’i defnyddio.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn:
“Mae hwn yn gam pwysig wrth gefnogi rhai o’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymunedau. I deuluoedd a gofalwyr, mae Protocol Herbert yn cynnig ffordd o gynllunio ymlaen llaw ac i sicrhau bod manylion hanfodol ar gael pan fydd pob eiliad yn cyfrif. Rwy’n annog unrhyw un sy’n cefnogi rhywun sydd â dementia i lenwi’r ffurflen a’i chadw’n gyfredol.”

Gallwch lawrlwytho ffurflen Protocol Herbert am ddim yma:

👉 https://www.medicalert.org.uk/create-account-herbert/

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 19/05/2025