Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl yn ymweld ag EYST i atgyfnerthu Ymgysylltu Cymunedol
Ymwelodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl â Thîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) yn Abertawe ar 27 Mawrth, ynghyd ag Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, er mwyn dysgu mwy am waith y sefydliad wrth gefnogi cymunedau amrywiol ar draws Cymru.
Mae EYST yn elusen wobrwyol a sefydlwyd i gefnogi pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion o leiafrifoedd ethnig, gan ddarparu amrediad eang o wasanaethau, yn cynnwys addysg, cyflogaeth, iechyd, cefnogi teuluoedd a mentrau diogelwch cymunedol.
Yn ystod yr ymweliad, roedd trafodaethau’n canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cymunedau yn ogystal â phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i adeiladu hyder, gwella ymgysylltu a sicrhau bod modd i bawb gael mynediad at wasanaethau.
Darparodd yr ymweliad gyfle i archwilio sut y gall plismona a sefydliadau partner barhau i weithio ar y cyd i gefnogi unigolion o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys pobl ifanc a’r rhai hynny a fydd efallai’n wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at wasanaethau.
Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:
“Roedd yn bleser ymweld ag EYST a chlywed yn uniongyrchol am y gwaith hanfodol y maent yn ei gyflawni ar draws Cymru. Mae sefydliadau fel EYST yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi cymunedau ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio i sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel, ac yn cael eu clywed a’u cefnogi.”
Mae’r ymweliad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y CHTh a Heddlu Dyfed Powys i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cymunedol i gefnogi cymunedau diogelach, cryfach a mwy cynhwysol.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 27/03/2026