Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026 heddiw, drwy gydnabod a dathlu cyflawniadau a chyfraniadau menywdod yn ardal Dyfed Powys a thu hwnt. 

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddathliad byd-eang o gyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod, gan hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd parhaus cynyddu cydraddoldeb rhywedd. Mae’r thema eleni, ‘Rhoi i Ennill’, yn annog ysbryd o haelioni, cydweithredu a chefnogi er mwyn creu mwy o gyfleoedd i fenywod. 

Mae menywod yn chwarae rôl amhrisiadwy wrth lunio teuluoedd, cymunedau, gweithleoedd a bywyd cyhoeddus, gan ddangos arweinyddiaeth, dygnwch ac ymroddiad ym mhob sector o gymdeithas. 

Ar draws ardal Dyfed Powys, mae menywod hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol drwy eu gwaith mewn plismona, diogelwch cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol, gan helpu cefnogi dioddefwyr, cryfhau gwasanaethau a chadw cymunedau’n ddiogel. 

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn: 

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle pwysig i ddathlu cyflawniadau a chyfraniadau menywod ym mhob man. 

Mae menywod yn chwarae rôl hanfodol ym mhob rhan o gymdeithas, o gefnogi teuluoedd a chymunedau i arwain sefydliadau a llunio’r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf. 

Mae thema eleni’n ein hatgoffa bod cynnydd tuag at gydraddoldeb yn cael ei atgyfnerthu pan rydym yn ein cefnogi ac yn ein codi ein gilydd. Drwy gydweithio, rhannu cyfleoedd a hyrwyddo ein llwyddiannau ein gilydd gallwn helpu creu dyfodol mwy cyfartal i bawb. 

Hoffwn hefyd gydnabod a diolch i’r nifer fawr o fenywod ar draws ardal Dyfed Powys, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gweithio o fewn plismona, fy swyddfa i ac ein sefydliadau partner, am y cyfraniadau pwysig y maent yn eu gwneud bob dydd.” 

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n parhau i gefnogi cydraddoldeb, cynrychiolaeth a chyfleoedd ar draws plismona a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. 

I ddysgu mwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, a thema’r ymgyrch eleni ewch at: IWD: International Women's Day 2026 theme is 'Give To Gain' 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 08/03/2026