Treuliodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, y diwrnod yn Rhydaman a Chaerfyrddin ddydd Mercher 25 Mawrth fel rhan o ymweliad ymgysylltu â’r gymuned, gan gyfarfod ag adrannau gwahanol yn Heddlu Dyfed-Powys.

Dechreuodd y diwrnod yn Rhydaman lle bu’n ymweld â’r tîm plismona ac atal bro lleol. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch yr heriau sy’n wynebu cymunedau lleol yn Sir Gaerfyrddin, a phwysigrwydd sicrhau bod plismona yn amlwg mewn cymunedau lleol.

Yn ystod y prynhawn, teithiodd y Comisiynydd, Dafydd Llywelyn, i bencadlys yr heddlu yn Llangynnwr. Yno, cyfarfu â’r Ganolfan Atal Troseddau Ganolog sydd â’r rôl o fynd i’r afael â throseddu a’i atal.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

“Mae Diwrnodau Ymgysylltu â’r Gymuned yn rhan bwysig o fy rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Mae siarad â thimau plismona ac atal bro a’r Ganolfan Atal Troseddau Ganolog yn rhoi cyfle i mi ddysgu mwy am y problemau y mae cymunedau ardal Heddlu Dyfed-Powys yn eu hwynebu. Mae ymroddiad y timau hyn yn hanfodol i gadw ein cymunedau’n ddiogel i bawb, ac yn creu cydberthnasau cryfach rhwng y cyhoedd a Heddlu Dyfed-Powys.”

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 25/03/2026