Ysgolion a Cholegau Lleol yn cael Cipolwg Tu Ôl i’r Llenni ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys
Yn ddiweddar, agorodd Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys ei ddrysau i groesawu disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws yr ardal, gan roi cyfle unigryw iddynt fynd tu ôl i’r llenni a dysgu mwy am blismona.
Roedd y diwrnod arbennig, a gynhaliwyd gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), yn cynnig amserlen lawr o sesiynau rhyngweithiol ac arddangosiadau a luniwyd i ddangos yr amrywiaeth o yrfaoedd a rolau o fewn plismona.
Croesawyd ymwelwyr gyda sgwrs gan y CHTh a’r Prif Gwnstabl Ifan Charles cyn dechrau eu diwrnod. O weld yr Adran Gŵn ar waith ac ymgymryd â’r her o Ystafell Ddianc Seiberdroseddu, i gael profiad ymarferol mewn gweithdy gwaith fforensig, roedd myfyrwyr yn medru profi ochr ymarferol plismona modern. Fe wnaethant hefyd gwrdd â swyddogion o’r Tîm Troseddau Gwledig i glywed am bwysigrwydd gwarchod ein cymunedau cefn gwlad cyn gorffen y diwrnod gyda thaith tu ôl i’r llenni o Ganolfan Reoli’r Heddlu.
Dywedodd CHTh Llywelyn:
“Braf oedd croesawu’r bobl ifainc o bob cwr o ardal Dyfed-Powys i’r Pencadlys. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd bwysig o ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ystyried gyrfa mewn plismona a dangos ehangder y gwaith sy’n digwydd tu ôl i’r llenni i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
Hoffwn ddiolch i’r holl fyfyrwyr ac athrawon a ymunodd â ni am y diwrnod, yn ogystal â’r swyddogion a staff niferus a roddodd o’u hamser i gyflenwi sesiynau ac arddangosiadau mor atyniadol. Gwnaeth eu brwdfrydedd a’u gwaith tîm y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.”
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad yr wythnos hon, mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n gobeithio cynnal Diwrnod Agored arall ym Mhencadlys yr Heddlu ar gyfer ysgolion a cholegau yn ystod y gwanwyn.
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 09/10/2025