Cydweithredu
Yn dilyn cyflwyno Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, gosodwyd dyletswyddau newydd ar Gomisiynwyr a Phrif Swyddogion i ystyried cydweithredu lle mae hynny er budd neu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu hardaloedd heddlu eu hunain ac eraill.
Mae Adran 23D Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 hefyd yn dweud bod yn rhaid i Gomisiynwyr ddal eu Prif Gwnstabliaid i gyfrif am weithredu o dan delerau’r cytundeb cydweithredol.
Mae Comisiynydd Dyfed-Powys yn gweithio gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu eraill Cymru drwy Grŵp Plismona Cymru Gyfan. Ers mis Awst 2020, mae’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi ariannu swydd Pennaeth yr Uned Blismona yng Nghymru i gyflenwi peth o’r agenda partneriaeth, ymgysylltu strategol, a llywodraethu cysylltiedig.
Ers dechrau 2025, mae’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi sefydlu Bwrdd Goruchwylio Cydlafurio’r Heddlu, sy’n rhoi cyfle ar gyfer craffu a goruchwylio perfformiad cydlafurio sy’n effeithio ar heddluoedd yng Nghymru ar y cyd. Bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod cydlafurio’n cynnig gwerth am arian a manteision dangosadwy ar gyfer pobl Cymru, gan weithio i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer Plismona yng Nghymru.
Cytundebau Cydlafurio Cenedlaethol
Mae pob heddlu yng Nghymru a Lloegr, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yr Heddlu Niwclear Sifil a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu’n cydweithio ar brosiectau i gydlynu, cefnogi a chyfuno gwasanaethau plismona. Darperir cymorth gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a’r Coleg Plismona.