Nododd Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (AHGTAEF) fod angen i Heddlu Dyfed-Powys wella ymgysylltu cymunedol Plismona Brp. Er mwyn helpu i hwyluso’r gwelliant hwn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio ymgymryd â chraffu annibynnol ar feysydd megis cynlluniau Plismona sy’n Canolbwyntio ar Broblemau. Cysylltodd Heddlu Dyfed-Powys â SCHTh i gydweithio ar y gweithgarwch hwn.

Mae plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau’n annog swyddogion Heddlu Dyfed-Powys i edrych tu hwnt i ddigwyddiadau unigol mewn cymunedau penodol, ac yn lle hynny, adnabod patrymau o droseddau a digwyddiadau sy’n ailddigwydd. Maen nhw hefyd yn edrych ar effeithiau’r digwyddiadau a’r troseddau hyn ar gymunedau lleol.

Yn gyffredinol, mae Cynlluniau Plismona sy’n Canolbwyntio ar Broblemau’n amlinellu dull i Heddlu Dyfed-Powys ymdrin â phroblemau a wynebir gan gymunedau unigol.

Diben cyffredinol y craffu hwn yw asesu pa un ai a yw’r cynlluniau plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau arfaethedig yn rhesymol, cymesur a gofynnol.