Bwrdd Perfformiad Strategol
Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, yr wyf wedi cwblhau Cynllun Heddlu a Throseddu sy’n nodi fy mlaenoriaethau hyd at 2029.
Bydd hyn yn cael ei ategu gan fframwaith perfformiad a fydd hynny'n nodi'r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod ein cynnydd yn cael ei olrhain ac ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus.
Bydd y fframwaith perfformiad yn cynnwys y Mesurau Trosedd a Phlismona Cenedlaethol a sefydlwyd gan y Swyddfa Gartref sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: -
- Lleihau llofruddiaethau a lladdiadau eraill
- Lleihau trais difrifol
- Aflonyddu ar gyflenwi cyffuriau a llinellau cyffuriau
- Lleihau troseddau cymdogaeth, gan gynnwys bwrgleriaeth, dwyn a lladrata
- Gwella bodlonrwydd dioddefwyr, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddioddefwyr cam-drin domestig
- Mynd i’r afael â seiberdroseddu
Dyma sut mae'r Llu yn cyfrannu at y mesurau cenedlaethol:
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhyd yn archwilio, monitro ac adrodd yn annibynnol ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y Heddlu gyda’r nod o annog gwelliant.
Darllenwch sut mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi graddio perfformiad Heddlu Dyfed-Powys yma.
Bwrdd Perfformiad Strategol
Mae’r Bwrdd Perfformiad Strategol yn cwrdd bob chwarter ac yn rhoi cyfle i oruchwylio a chraffu ar berfformiad yr Heddlu. Bydd yn canolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth yn erbyn y blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu, perfformiad yn erbyn mesurau cenedlaethol a chynhyrchiant sefydliadol.
Bydd cyfarfodydd ar gael i wylio yma
Yn flaenorol, darparu gwasanaeth yn erbyn fy mlaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Heddlu a Throseddu ei drafod yn Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu.