Sefydlwyd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (CHTh) gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Mae ganddynt ddyletswydd statudol a mandad etholiadol i ddwyn yr heddlu i gyfrif ar ran y cyhoedd.

Ochr yn ochr â’r Bwrdd Plismona a’r Bwrdd Perfformiad Strategol, cynhelir ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol ar bynciau penodol, yn unol â’r blaenoriaethau a amlinellir yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer 2025-2029, ac a nodwyd fel y prif feysydd i graffu arnynt a’u datblygu. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn newid y dull adolygu craffu dwys a fabwysiadwyd yn flaenorol gan fy swyddfa.

Bydd ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol yn fy ngalluogi i ddwyn Prif Gwnstabl (PG) Heddlu Dyfed-Powys (HDP) i gyfrif yn gyhoeddus, trwy graffu ar dystiolaeth a gwybodaeth a ddarperir gan randdeiliaid allweddol mewn gwrandawiadau’r Pwyllgor Dethol a thrwy ymgysylltu ac ymgynghori. Bydd y dull hwn yn dod â phartneriaid allweddol sy’n medru dylanwadu ar gyflenwi yn y dyfodol at ei gilydd a’u galluogi i helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol yn y maes sydd dan sylw.

Mae ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol yn fy nghaniatáu i arfer fy rôl mewn modd tryloyw, drwy wneud y canlynol:

  • Sicrhau gwaith craffu cadarn a dwyn y PG i gyfrif;
  • Sicrhau bod llais dioddefwyr a goroeswyr yn cael ei glywed;
  • Cynnwys y cyhoedd mewn atebolrwydd lleol;
  • Gweithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol ehangach yn effeithlon ac yn effeithiol;
  • Cyhoeddi gwybodaeth i alluogi’r cyhoedd i asesu perfformiad HDP a phartneriaid.

Cylch Gorchwyl

Ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol

Plant a Phobl Ifainc

Mae’r Pwyllgor Dethol hwn yn ystyried y llwybrau ymholi canlynol:

  1. Beth yw effaith gwasanaethau ymyrryd, atal ac ymgysylltu Heddlu Dyfed-Powys a’i bartneriaid o ran trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer pobl ifainc 18-25 oed?
  2. Pa welliannau, os o gwbl, sydd angen i ddarpariaeth gwasanaethau ymyrryd, atal ac ymgysylltu o ran trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer pobl ifainc 18-25 oed?

Cylch Gorchwyl

Adroddiad y Pwyllgor Dethol

Atodiaidau yr Adroddiad 

Graffeg gwybodaeth argymhellion

Dydd Mercher 07 Mai 2025

Dydd Mercher 04 Mehefin 2025

Dydd Mercher 01 Hydref 2025

Dydd Llun 02 Chwefror 2026

Dydd Mercher 22 Ebrill 2026