Bwrdd Sicrwydd Safonau Proffesiynol

Mae’r Bwrdd Sicrwydd Safonau Proffesiynol yn darparu goruchwyliaeth ar y modd y mae Heddlu Dyfed‑Powys yn trin cwynion, materion camymddwyn a safonau proffesiynol.
Mae’r Bwrdd yn cefnogi rôl statudol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) i ddwyn Prif Gwnstabl yr heddlu i gyfrif ar ran y cyhoedd, gan helpu i sicrhau bod pryderon am ymddygiad yr heddlu yn cael eu trin yn deg, yn gyfreithiol ac yn dryloyw.

Beth mae’r Bwrdd yn ei oruchwylio?

Mae’r Bwrdd yn craffu ar waith Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed‑Powys, gan ganolbwyntio ar:

  • sut mae cwynion gan y cyhoedd yn cael eu trin
  • prydlondeb ac ansawdd ymatebion i gwynion
  • materion camymddwyn a disgyblu
  • gwersi a ddysgir o gwynion, ymchwiliadau a gwrandawiadau
  • cydymffurfiaeth â deddfwriaeth, canllawiau a chanfyddiadau cenedlaethol
  • perfformiad gwirio

Mae’r gwaith hwn yn rhoi sicrwydd bod trefniadau priodol ar waith a bod gwelliannau’n cael eu gwneud pan fo angen.

Sut mae’r Bwrdd yn gweithio

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys cynrychiolwyr uwch o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Dyfed‑Powys. Mae’n ystyried gwybodaeth perfformiad, themâu sy’n dod i’r amlwg, a chynnydd wrth weithredu argymhellion gan gyrff fel Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) a HMICFRS.

Tryloywder

Fel rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i fod yn dryloyw, cyhoeddir gwybodaeth am oruchwyliaeth trefniadau trin cwynion ar y wefan hon, er mwyn galluogi’r cyhoedd i ddeall sut mae pryderon ynghylch plismona yn cael eu craffu a’u monitro.